Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Rheoli Gwastraff yn faes cyffrous, sy’n newid yn gyson. Rydym yn darparu casgliadau ailgylchu, gwastraff cyffredinol, gwastraff bwyd a gwastraff gardd i bob eiddo yn y ddinas. Ochr yn ochr â hyn, cynigir amrywiaeth o gasgliadau dewisol gan gynnwys gwastraff swmpus, gwastraff hylendid, gwastraff busnes.

Gan weithio ochr yn ochr â’n gwasanaethau cymdogaeth, ein nod yw cynnig dinas lân, ddeniadol a chynaliadwy i’r rheiny sy’n gweithio, ymweld a byw yng Nghaerdydd.

Am Y Swydd


Fel Swyddog Strategaeth Gwastraff, bydd gennych rôl amrywiol. Bydd hyn yn cynnwys:

- Ymgysylltu mewn modd targedig ag amrywiaeth o gymunedau, gan gynnwys wyneb yn wyneb, llythyrau / taflenni, cynnwys y we e.e. myfyrwyr, plant ysgol
- Ymchwil a meincnodi – beth mae meysydd eraill yn ei wneud i gynyddu cyfranogiad o ran ailgylchu, mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd?
- Dadansoddi data – beth sy’n digwydd?
Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym, a pha gamau sydd angen i ni eu cymryd?
- Rhaglenni cynllunio – ymateb i geisiadau cynllunio, i sicrhau bod gan safleoedd newydd drefniadau ailgylchu a gwastraff priodol
- Dadansoddi dewisiadau newid – beth fyddai’r effeithiau?
- Archwiliadau gwastraff busnes a mewnol - pa wastraff maen nhw’n ei gynhyrchu?
Allen nhw leihau hyn, neu allen nhw ailgylchu mwy?
- Datblygu ymgynghoriadau a dadansoddi canlyniadau
- Rheoli cynnwys ar y wefan Cadw Caerdydd yn Daclus

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Yn fwy na dim, rydym yn chwilio am rywun sy’n frwd am rannu negeseuon ailgylchu ac amgylcheddol. Mae angen i chi gael gwir ddiddordeb, er mwyn denu amrywiaeth o gynulleidfaoedd a sicrhau newid o ran ymddygiad.

Mae angen i chi allu gweithio mewn amgylchedd prysur, â blaenoriaethau newidiol. Mae’r gallu i addasu a bod yn hyblyg yn hanfodol.

Mae’r gallu i feddwl yn feirniadol yn allweddol.

Rhaid gallu gweithio mewn tîm, bod yn gyfeillgar a gallu gweithio ag ystod o randdeiliaid mewnol, ac allanol.

Rhaid i chi feddu ar drwydded yrru ddilys lawn, i sicrhau bod offer ac ati yn cael ei ddanfon ar gyfer gweithdai / sesiynau allgymorth.

Mae sgiliau TGCh da yn hanfodol.

Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus ag ystod o gynulleidfaoedd, gallu casglu a dadansoddi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau data, cynhyrchu dogfennau cyfathrebu clir a chryno a chydgysylltu ag amrywiaeth o grwpiau mewnol ac allanol.

Dyma gyfle cyffrous i ddatblygu a gwella ymwybyddiaeth o wastraff a rheoli adnoddau, ar adeg pan fo’r pwnc yn berthnasol iawn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 3 - Canolradd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Danielle Williams, Swyddog Strategaeth Gwastraff (029) 2071 7558.

Atodiadau