Am Y Gwasanaeth
Cylch gwaith Caerdydd Ddwyieithog yw cymryd rôl flaenllaw wrth ddatblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog, dinas lle gall dinasyddion a staff Cyngor Caerdydd fwynhau a manteisio ar wasanaethau a chymorth o'r un safon yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r tîm yn gyfrifol am hwyluso a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd ar y cyd â’n partneriaid, ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn.
Am Y Swydd
Ydych chi am weld y Gymraeg yn tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'n gweledigaeth ni i greu Caerdydd gwirioneddol ddwyieithog?
Os felly, mae’n bosib taw hon yw’r swydd i chi!
Mae uned Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd yn chwilio am Uwch Gyfieithydd i ymuno â’r tîm. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus radd dda yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfatebol a phrofiad sylweddol o gyfieithu’n broffesiynol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg i
Lefel 5 – Hyfedr
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg
This is a position for which the ability to speak Welsh is an essential requirement.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfieithu a phrawfddarllen o’r safon uchaf, ac yn barod i gynnig cymorth ac adborth i gyfieithwyr fel bo angen.
Mae’r gallu i weithio o dan bwysau a gorffen gwaith yn brydlon yn ogystal â gweithio’n drefnus ac yn ddisgybledig yn hollol hanfodol i’r swydd hon, fel y mae’r gallu i weithredu a chyfathrebu yn y Gymraeg â’r Saesneg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg i Lefel 5 – Hyfedr Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Oherwydd yr amgylchiadau COVID-19 cyfredol caiff y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon ei chynnal yn rhithiol drwy ddefnyddio llwyfan ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir cysylltwch â Ffion Gruffudd, FfGruffudd@caerdydd.gov.uk
Atodiadau