Pam gweithio i ni?


Fel cyflogwr mwyaf Cymru, mae Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith a phecyn hael ac esgynnol o fanteision.

  • Cyflog

    Cyflog cystadleuol yng nghyd-destun strwythur tâl teg gydag adolygiadau tâl blynyddol a'r cyfle am godiadau cyflog cynyddrannol. 

  • Manteision

    Mae gennym amrywiaeth o fuddion sy'n cynnwys cynlluniau pensiwn rhagorol ar gyfer cyflogeion Llywodraeth Leol ac Athrawon, hawliau gwyliau hael a Chynllun Gostyngiad i Gyflogeion.

  • Polisïau sy’n Dda i’r Teulu

    Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae gennym amrywiaeth helaeth o bolisïau wedi’u dylunio i helpu cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  

  • Urddas yn y Gwaith

    Rydym yn annog ac yn disgwyl amgylchedd lle na oddefir ymddygiad annerbyniol a lle mae pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch.  

  • Iechyd a Llesiant

    Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi iechyd a llesiant ei gyflogeion. 

  • Dysgu a Datblygu

    Mae datblygu parhaus yn cael ei gydnabod gan y Cyngor fel dull hanfodol er cynnal safonau uchel darpariaeth gwasanaeth yn ogystal ag ymglymiad cyflogeion.