Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dynamig mewn sefydliad cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn 'Gyngor da ac uchelgeisiol' gyda diwylliant 'cadarnhaol ac optimistaidd'.
Ynglŷn â’r Swydd
Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Pobl a Chymunedau, byddwch yn cynnig arweiniad a chyfeiriad strategol ar integreiddio gwasanaethau a ddarperir i bobl sy’n agored i niwed ledled Caerdydd, gan gynnwys cynnig dadansoddiadau a chyngor cadarn i Aelodau Cabinet a Chynghorwyr ar y dewisiadau a’r dulliau gorau o gyflawni elfennau perthnasol ar ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y weinyddiaeth a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.
Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau hynod effeithiol, gan ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr.
Mae’r swydd yn gofyn am Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig sydd â dealltwriaeth fanwl o’r gwasanaethau y manylir arnynt yn y proffil swydd a rhywun all arwain newid strategol a rhaglen drawsnewid ym maes cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n sicrhau bod dewisiadau strategol y Cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn effeithlon gan wella’n barhaus ganlyniadau i fywydau pobl Caerdydd.
Byddwch chi'n gyfathrebwr effeithiol, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch trwy eich galluoedd arwain. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol ac ymdrin â materion cymhleth yn rhwydd.
Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda Phartneriaid ac Undebau Llafur.
Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009).
Dyddiad Cau: 19 Rhagfyr 2025 am 11.59pm
Gwybodaeth Ychwanegol
I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Sarah McGill, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Pobl a Chymunedau ar (029) 20872900
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a ddarparwch yn gywir yn ffeithiol, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eiddo i chi eich hun.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
• Canllawiau Gwneud Cais
• Gwneud cais am swydd â ni
• Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter y Gweithwyr
• Recriwtio Cyn-droseddwyr
• Nodyn Preifatrwydd
Atodiadau