Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dynamig mewn sefydliad cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn 'Gyngor da ac uchelgeisiol' gyda diwylliant 'cadarnhaol ac optimistaidd'.
Ynglŷn â’r Swydd
Gan adrodd i’r Prif Weithredwr, byddwch yn cynnig arweiniad a chyfeiriad strategol ar integreiddio gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys gwastraff a Phriffyrdd, a ddarperir i ddinasyddion ledled Caerdydd, gan gynnwys cynnig dadansoddiadau a chyngor cadarn i Aelodau Cabinet a Chynghorwyr ar y dewisiadau a’r dulliau gorau o gyflawni elfennau perthnasol ar ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y weinyddiaeth a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.
Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau hynod effeithiol, gan ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr.
Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn sydd â dealltwriaeth fanwl o'r gwasanaethau y manylir arnynt yn y proffil rôl ac sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaethau mewn amgylchedd undebol.
Byddwch chi'n gyfathrebwr effeithiol, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch trwy eich galluoedd arwain. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol ac ymdrin â materion cymhleth yn rhwydd.
Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda’r gweithlu ac Undebau Llafur.
Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009).
Dyddiad Cau: 9 Ionawr 2025 am 11.59pm
Gwybodaeth Ychwanegol
Am drafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Gatenby Sanderson
Sandra Jones - sandra.jones@gatenbysanderson.com / 07826 404 091
Gary Evans - Gary.Evans@gatenbysanderson.com / 07809 195 593
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a ddarparwch yn gywir yn ffeithiol, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eiddo i chi eich hun.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
• Canllawiau Gwneud Cais
• Gwneud cais am swydd â ni
• Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter y Gweithwyr
• Recriwtio Cyn-droseddwyr
• Nodyn Preifatrwydd
Atodiadau