Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol a bod yn rhan o uwch dîm rheoli dynamig mewn sefydliad cyhoeddus arweiniol sydd â 15,000 o gyflogeion yn darparu dros 700 o wasanaethau unigol i dros 362,000 o breswylwyr. Canfu adolygiad annibynnol gan gymheiriaid yn ddiweddar fod Cyngor Caerdydd yn 'Gyngor da ac uchelgeisiol' gyda diwylliant 'cadarnhaol ac optimistaidd'.

Ynglŷn â’r Swydd

Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, byddwch yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar drawsnewid y gwasanaethau a ddarperir i ddinasyddion ledled Caerdydd, gan sbarduno’r gwaith o gyflawni Rhaglen Newid y Cyngor mewn ymateb i'r galw dybryd a phwysau ariannol. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth weithio gydag Aelodau'r Cabinet a Chynghorwyr i sicrhau y rhoddir ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor ar waith, sy'n sail i'n Cynllun Corfforaethol.

Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau trawsnewid hynod effeithiol, gan ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant. 

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr. 

Mae’r swydd yn gofyn am unigolyn sydd â dealltwriaeth fanwl o wasanaethau cyhoeddus ac sydd â phrofiad o weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus yn ogystal â newid strategol a thrawsnewidiol ym maes cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n sicrhau bod dewisiadau strategol y Cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn effeithlon gan wella’n barhaus ganlyniadau i fywydau pobl Caerdydd. 

Byddwch yn huawdl, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch drwy roi cyngor arbenigol clir.  Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol ac ymdrin â materion cymhleth yn rhwydd. 

Byddwch yn gyfathrebwr hyderus ac yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, yn ogystal â chyda sefydliadau partner.

Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009). 

Dyddiad Cau: 19 Rhagfyr 2025 am 11.59pm 

Gwybodaeth Ychwanegol

Am sgwrs gyfrinachol cysylltwch â Paul Orders, Prif Weithredwr ar (029) 20872401.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth a ddarparwch yn gywir yn ffeithiol, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eiddo i chi eich hun.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

•    Canllawiau Gwneud Cais
•    Gwneud cais am swydd â ni
•    Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-

•    Siarter y Gweithwyr
•    Recriwtio Cyn-droseddwyr
•    Nodyn Preifatrwydd

Atodiadau