Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Hyfforddai hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd i wneud cais am y rôl hon a gallwch wirio a yw’ch cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma: http://ishare.cardiff.gov.uk/mycardiff.aspx
Mae ein Tîm Archifau Morgannwg am gyflogi Cynorthwyydd Digidol ar sail Hyfforddai Corfforaethol yn Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu ni i gasglu, cadw a rhoi ar gael i'r cyhoedd ddogfennau am hanes Morgannwg sy’n dyddio o'r 12fed ganrif hyd heddiw. Mae dros 12 mil o ddogfennau wedi eu cadw mewn ystafelloedd diogel yn y cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol.

Yn y rôl Hyfforddai Corfforaethol hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:
• Gynhyrchu copïau digidol o ansawdd uchel o ddeunydd archif o gasgliad Archifau Morgannwg
• Golygu delweddau digidol, gan gynhyrchu copïau sy'n addas at amrywiaeth o ddibenion
• Uwchlwytho cynnwys digidol a metadata cysylltiedig i byrth darganfod ar-lein
• Ymateb i geisiadau cwsmeriaid am gopïau digidol o ddeunydd yn y casgliad
• Datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid drwy e-bost
• Ymdrin â deunydd archif gwreiddiol yn briodol
Caiff hyfforddiant llawn ei roi ar ddefnyddio ein hoffer delweddu digidol arbenigol a’n systemau TG gan ein tîm a fydd yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a byddwch yn cael eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Bydd y rôl hon wedi’i lleoli ar y safle, yn adeilad Archifau Morgannwg yn Lecwydd, Caerdydd. Efallai y bydd angen gweithio gartref o bryd i’w gilydd, a bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg yn ystod ein horiau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am-5pm.

Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein Hyfforddeion Corfforaethol yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
Gan weithio ar y safle yn Archifau Morgannwg byddwch yn helpu ein tîm i ofalu am fileniwm o hanes ysgrifenedig. Mae'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn cynnwys defnyddio TG gan gynnwys delweddu digidol a chofnodi data, darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid, gwella mynediad i'r casgliad, a helpu i ofalu am y casgliad a'i warchod. Bydd cyfle i gyfrannu at gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Archifau. Gellir gweld mwy o wybodaeth am waith Archifau Morgannwg yn www.glamarchives.gov.uk/?lang=cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, ffoniwch Rhian Diggins ar 029 2087 2299.
I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd. Cadarnhewch fod eich cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma http://ishare.cardiff.gov.uk/mycardiff.aspx
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Dyma swydd dros dro am 6 mis os caiff ei gweithio'n llawn amser neu'n hirach os caiff ei gweithio'n rhan-amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser.
Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £9.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.
I gefnogi eich cais, neu gyfweliad posibl yn y dyfodol, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, drwy danysgrifio i'n Sianel YouTube, neu drwy fynd i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith yn www.imewniwaithcaerdydd.co.uk.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Atodiadau