Am Y Gwasanaeth
Ynglŷn â Chartrefi Plant Caerdydd
Mae bob un o’n Cartrefi Plant Preswyl yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Caerdydd ac yn cynnig gofal o ansawdd uchel i bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed.
Mae'r cartrefi o fewn pellter cerdded i siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol ac yn agos at ganol y ddinas, ac yn hygyrch trwy’r holl brif lwybrau traffig i mewn ac allan o Gaerdydd.
Mae'r timau’n gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn trwy feithrin cysylltiadau cadarnhaol ac ymddiriedaeth gyda'n pobl ifanc a allai arddangos anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol oherwydd trawma andwyol a'u cynorthwyo gyda'u nodau a'u deilliannau personol.
Wrth wraidd ein gwaith mae:
- Cynnig cymorth uniongyrchol, gan sicrhau ein bod ni’n cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar o'r cychwyn cyntaf.
- Cydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc.
- Gweithio gyda'r bobl ifanc i feithrin a chryfhau perthnasoedd cadarnhaol.
- Cynnig amgylchedd diogel, meithringar, cadarnhaol a llawn hwyl.
- Gweithredu er budd gorau ein plant sy’n derbyn gofal, yn yr un modd ag y byddai rhiant da yn gweithredu dros ei blentyn ei hun.
- Lle bo hynny'n briodol, cefnogi'r bobl ifanc i gynnal a chryfhau perthnasoedd â theuluoedd, brodyr a chwiorydd a phobl eraill y maen nhw’n eu nodi fel rhai sy’n arwyddocaol iddyn nhw.
- Gallu cynnig cymorth i bobl ifanc mewn angen dybryd oherwydd bod y berthynas â’r teulu wedi chwalu.
Oriau gwaith ac ychwanegiadau hael:
- Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n cynnig gofal 24 awr y dydd mewn amgylchedd diogel, cefnogol a meithringar. Mae'r rôl ddeinamig hon yn cynnig patrwm gweithio amrywiol, gan gynnwys nosweithiau, penwythnosau, a shifftiau cysgu dros nos.
- Mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio gyda’r hwyr, ar benwythnosau, yn ystod gwyliau banc a dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog. Byddwch yn derbyn taliad chwyddo ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £40.80 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.
- Os nad yw ymrwymo i rota yn gweithio i chi, ac rydych chi'n chwilio am batrwm mwy ad-hoc / dim ond ychydig o shifftiau, cysylltwch â ni a gallwn edrych ar lwybr asiantaeth gyda'n gilydd.
Am Y Swydd
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, gofalgar sy’n:
- Awyddus i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
- Hoffi gwneud gwahaniaeth – byddwch yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn cymorth personol o ansawdd uchel trwy gydol eu hamser yn ein cartrefi.
- Dathlu cyflawniadau – byddwch chi'n eu cefnogi i gyrraedd canlyniadau a cherrig milltir cadarnhaol, mawr a bach.
- Adeiladu cysylltiadau ystyrlon – byddwch chi'n ffurfio perthnasoedd cadarnhaol, priodol sy'n helpu pobl ifanc i deimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
- Llawn egni a brwdfrydedd – byddwch yno i rannu hwyl a chyffro pob cam eu datblygiad.
- Agored i ddysgu a thyfu – byddwch yn rhannu eich profiadau, eich sgiliau a'ch gwybodaeth tra'n cadw plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth rydych chi'n ei wneud.
- Gallu addasu i anghenion newidiol - byddwch yn gweithio ar batrwm shifftiau a all newid, yn dibynnu ar anghenion y bobl ifanc a’r gwasanaeth.
Fel rhan o'ch rôl, byddwch wedi'ch lleoli mewn un Cartref Plant penodol. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn cartrefi eraill yng Nghaerdydd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd – mae angen aelodau o staff arnom sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol dros y bobl ifanc yn eu gofal.
Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc wrth ddarparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.
Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn:
- Chwarae rhan hanfodol wrth gynnig gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant unigol.
- Cymryd rhan lawn yn yr amgylchedd gofal a byw â chymorth o fewn y cartref a fydd yn cynnwys glanhau'r cartref, cynnal a chadw a pharatoi prydau bwyd.
- Helpu pobl ifanc i fynd i ddigwyddiadau, gweithgareddau, addysg, apwyntiadau, a chyfarfodydd.
- Rhoi cymorth ymarferol i wireddu cynlluniau addysg y plant, a all gynnwys gwaith cartref, adolygu, gwaith prosiect a gweithgareddau addysgol eraill.
- Hybu darllen a datblygiad deallusol pobl ifanc drwy greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu a chymorth, gan greu cysylltiadau cadarnhaol gydag ysgolion, mynychu digwyddiadau, gweithgareddau a nosweithiau rhieni fel y bo'n briodol.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn:
- Hawliau i wyliau blynyddol a chynlluniau pensiwn cystadleuol.
- Help a chefnogaeth i gwblhau:
- Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 2 (Craidd)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (Ymarfer)
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y gwasanaeth, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff.
Rhestr fer/ Cyfweliad a dechrau'r rôl
Bydd y cyfweliad am fore neu brynhawn cyfan (2.5 awr) a bydd yn cynnwys tasg grŵp ac yna tasg ysgrifenedig a chyfweliad ffurfiol un-i-un gyda'r panel, a fydd yn cynnwys ein rheolwyr preswyl a'n dirprwyon.
Rydym yn cynnig wythnos sefydlu, lle bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwrdd ag Uwch Reolwyr, yn siarad â'r rôl a'r cyfrifoldebau, yn dysgu am ysgrifennu am ddigwyddiadau a bydd yn cynnwys gweithgareddau grŵp. Bydd amser hefyd i gwblhau modiwlau dysgu ar-lein.
Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y cyfleoedd hyn, cysylltwch â Laura White drwy e-bost ar Laura.White3@caerdydd.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swyddi uchod.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Yn anffodus, nid ydym yn gallu cynnig nawdd ar gyfer ein rolau Preswyl oherwydd nad yw'r cyflog yn bodloni'r gofyniad isafswm cyflog ar gyfer Fisa Gweithiwr Medrus a gynyddwyd ym mis Gorffennaf 2025.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Gweithio Dros Gaerdydd Pecyn Ymgeisydd – Cardiff Council
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Atodiadau