Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae tîm Archifau Morgannwg yn casglu, cadw ac yn sicrhau bod dogfennau yn ymwneud â hanes Morgannwg o’r 12fed ganrif hyd heddiw ar gael i’r cyhoedd. Mae dros 12 mil o ddogfennau wedi eu cadw mewn ystafelloedd diogel yn y cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol.


Rydym am gyflogi Swyddog Prosiect yn Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW i gefnogi cyflwyno canllawiau ymchwilio i ffynonellau ar gyfer astudio Hanes Lleiafrifoedd Ethnig. Ariennir y prosiect trwy Gronfa Treftadaeth a Chwaraeon Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru ac mae'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol.

Am Y Swydd

Yn y rôl Swyddog Prosiect hon, byddwch yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno canllawiau ymchwilio i ffynonellau ar gyfer astudio hanes Lleiafrifoedd Ethnig.

Byddwch yn goruchwylio'r prosiect, gan gynnal cyfrifoldeb dros recriwtio gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr prosiect, eu hyfforddiant a'u goruchwyliaeth, a rheoli'r data maent yn ei gynhyrchu. Byddwch yn rhoi cyhoeddusrwydd ac yn hyrwyddo'r prosiect ac yn cysylltu â phartneriaid prosiect, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru a sefydliadau gwirfoddol cymunedol.
Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg yn ystod ein horiau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am-5pm. Efallai bydd angen gweithio rhywfaint gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gennych brofiad o oruchwylio gwirfoddolwyr a byddwch wedi gweithio ar brosiectau tymor byr ac wedi llwyddo i’w cyflawni. Bydd gennych sgiliau rheoli a threfnu amser gwych, gyda'r gallu i weithio'n annibynnol a rheoli llwyth gwaith amrywiol.

Byddwch yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr, ac yn hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r prosiect, ac felly bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol a dull hyblyg a chadarnhaol o ymdrin â'r rôl. Byddwch chi'n barod i deithio'n lleol er mwyn cyflawni agweddau hyrwyddo'r rôl.

Bydd bod yn gyfarwydd â hanes amrywiol de Cymru, gwybodaeth am y sector treftadaeth a phrofiad o ddefnyddio archifau a chasgliadau arbennig, yn ddymunol.
Gellir gweld mwy o wybodaeth am waith Archifau Morgannwg yn www.archifaumorgannwg.gov.uk

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â  Rhian Diggins ar 029 2087 2299.

Mae’r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2024 ac yn rhan-amser ar sail wythnos waith 22.2 awr.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person.  Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol.  Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

I gael gwybod mwy am ein sefydliad i gefnogi eich cais, neu gyfweliad posib yn y dyfodol, efallai y byddai’n ddefnyddiol cael gwybod ychydig mwy am Archifau Morgannwg trwy ein dilyn ar Twitter, Facebook ac Instragram neu drwy fynd i'n gwefan www.glamarchives.gov.uk/?lang=cy.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau