Swyddi Gwag

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.  Felly, er nad yw’n ofyniadar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau ganunigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

 

•sy’n 25 oed ac yn iau;

•nad ydynt mewncyflogaeth, addysg na hyfforddiant;

•o’n cymunedau lleol, ynbenodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd aLleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd;

•gallu cyfathrebu'n rhuglyn y Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol eraill.

 

Ni ddylai unrhyw ymgeisydd, cyflogai neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael eidrin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol/ailbennurhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, (gan gynnwyscyplauo’r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadeddrhywiol a’r Iaith Gymraeg.

 

Ymgeiswyrgydag anableddau

 

Mae Cyngor Caerdydd yn achrededig fel Cyflogwr Hyderus ag Anabledd ac mae’n hyrwyddo ymrwymiad i arfer da mewncyflogaeth anabledd. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn, cynigir cyfweliad i ymgeiswyrag anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, gan ofyniddynt cyn dod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i’w galluogi igymryd rhan yn y broses.


Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn

Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i gydnabod ei gefnogaeth a'i ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog.  Byddwn bob amser yn croesawu ceisiadau am swyddi gan aelodau o'r lluoedd arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid na fyddant byth o dan anfantais annheg ar unrhyw adeg o'n proses recriwtio a dethol.


Mae'r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iath boed yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog dim ond i chi roi gwybod i ni pa un sydd well gennych.  Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu urhyw oedi.


Cyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol  


Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol ac yn cyfrannu’n ychwanegol at unrhyw gyflog sydd â chyfradd yr awr yn is na'r Cyflog Byw gwirfoddol er mwyn ei fod yn cyfateb â’r Cyflog Byw Gwirioneddol, sy'n uwch na'r cyfraddau isafswm cyflog a osodir gan Lywodraeth San Steffan. Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw neu i wirio'r gyfradd bresennol ewch i www.livingwage.org.uk


    Angen help i ymgeisio am y swyddi hyn? Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith 

    Ffôn: 029 2087 1071

    Ebost: CyngoriMewniWaith@caerdydd.gov.uk