Telerau ac Amodau


  • Croeso i Safle Gyrfaoedd Cyngor Caerdydd


    Darperir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Oni bai y nodir fel arall, mae’r holl ddeunydd ar y safle hwn yn destun hawlfraint. Er nad ydym yn gwrthwynebu chi’n defnyddio deunydd y safle hwn at ddibenion personol neu addysgol neu ar gyfer ymchwil personol, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi ddefnyddio unrhyw ddibenion at ddibenion masnachol oni bai eich bod wedi cael caniatâd Cyngor Caerdydd. Mae’n rhaid i unrhyw ddefnydd o ddeunydd fod â chydnabyddiaeth. Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon yn briodol, ond nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros ac nid yw’n ardystio cynnwys unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb yn deillio o ddibynnu ar wybodaeth o’r fath ac, wrth ddefnyddio’r wefan hon, nid yw Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw warant neu sylwad, datganiedig neu ymhlyg, cyflawnrwydd neu briodoldeb ar gyfer unrhyw ddiben penodol y gallai’r wybodaeth fod wedi’i defnyddio ar ei gyfer. Ceidw’r hawl i ddileu neu addasu unrhyw wybodaeth heb rybudd.

  • Mae’n bosibl y bydd eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn dymuno eu rhoi i ni) yn cael ei phrosesu at ddibenion recriwtio ac ymgeisio am swyddi, gan Gyngor Caerdydd ac unrhyw sefydliadau trydydd parti sydd â chontract. Mae enghreifftiau o sefydliadau trydydd parti’n cynnwys darparwyr gwasanaethau cynnal a gwasanaethau prosesu data. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu fel yr uchod yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd, ac ar y cyd â deddfwriaeth diogelu data.


  • Drwy gofrestru cyfrif a defnyddio’r safle rydych yn rhoi caniatâd eglur i Gyngor Caerdydd gadw a phrosesu eich data cyhyd ag y mae angen cyfreithlon i wneud hynny yn unol â’r uchod a’n Hysbysiad Preifatrwydd.

  • Yn yr un modd, os ydym wedi casglu a phrosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail eich cydsyniad chi, gallwch dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd. Ni fydd tynnu nôl eich cydsyniad yn effeithio cyfreithlonrwydd unrhyw brosesu a gynhaliwyd cyn i chi dynnu nôl, nac ychwaith yn effeithio ar brosesu eich gwybodaeth bersonol a gynhaliwyd ar sail prosesu cyfreithlon heblaw am gydsyniad.

  • Hawlfraint


    Mae’r tudalennau hyn, oni bai y nodir yn wahanol, yn destun hawlfraint ac wedi’u hamddiffyn gan gyfreithiau cenedlaethol a chytundebau rhyngwladol byd-eang. Ceidw pob hawl.

  • Dolenni Allanol


    Gall y wefan hon gynnig dolenni i wefannau allanol fydd yn agor mewn porwr newydd. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hyn.

  • Safon y Gwasanaeth


    Hoffem sicrhau bod ein gwefan ar gael trwy’r adeg. Yn anffodus, mae nifer o resymau fydd yn golygu na fyddwn yn gallu gwneud hyn, ond ein targed yw sicrhau bod ein safle ar gael ar gyfer 99.5% o’r amser.