Sorry, applications for this job are no longer possible

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfleoedd cyffrous i ymuno â’n Gwasanaethau Strydlun, yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd.

 

Ynglŷn â’r Swydd

Fel Gweithiwr Casgliadau yn y Tîm Domestig, byddwch yn gyfrifol am gasglu deunyddiau gwastraff ac ailgylchu ledled Caerdydd.  Byddwch yn gallu gyrru a chynnal a chadw unrhyw gerbyd a roddir i chi i hwyluso'r casgliadau.

 

Noder - Mae'r swydd hon yn un lawn-amser gydag oriau gwaith o 6.00am i 3.45pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Rydych wedi'ch contractio i weithio Dydd Gwener y Groglith.  Pan fydd Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan neu Ddydd Calan yn disgyn ar ddiwrnod gwaith sydd wedi’i gontractio, bydd diwrnodau dal i fyny, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau, yn ofyniad gorfodol.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Mae Trwydded Yrru Dosbarth 1 yn hanfodol ar gyfer y rôl hon yn ogystal â hyfforddiant neu wybodaeth am Dechnegau Codi a Chario ac Iechyd a Diogelwch yn y gwaith.

 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn tîm gweithredol mawr a chysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd, a bydd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.  Bydd gennych brofiad o weithrediadau codi a chario yn ogystal â gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.  Mae profiad o ddilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.   

Gwybodaeth ychwanegol

Byddwch yn gallu addasu'n gyflym i dechnolegau a ddefnyddir gan y gwasanaeth. Bydd angen i chi ddeall a gweithredu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor.  Rhaid i chi gynnal enw da’r Cyngor drwy fabwysiadu dull proffesiynol a chwrtais o weithio.

 

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â Joanna Hughes ar 029 2071 7519.

 

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg

Attachments