Cymorth hygyrchedd
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio pob rhan o’r wefan yn rhwydd. Dyma gyfarwyddiadau ar sut i gael y gorau o’r wefan. Os oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar sut y gallwn wella’r wefan, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r ffurflen adborth.
Maint y testun
Os ydych yn teimlo fod maint y testun ar y wefan yn rhy fawr neu’n rhy fach, gallwch ei newid drwy glicio ar y ddolen Maint Testun A A yng nghornel chwith y safle. Neu gallwch newid maint y testun trwy eich porwr gwe eich hunan. I newid maint y testun gan ddefnyddio’r porwr:
1. Gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys yr IE poced), defnyddiwch y ddewislen Gweld - Maint Testun.
2. Gyda Firefox a phorwyr Mozilla eraill, defnyddiwch y ddewislen Gweld - Maint Testun;
3. Gyda Safari, defnyddiwch yr opsiwn Gweld – Gwneud y Testun yn fwy;
4. Gydag Opera, defnyddiwch Gweld - Dull - Defnyddwyr;
5. Gyda Macintosh Internet Explorer, a Netscape a 7, defnyddiwch y ddewislen Gweld – Gwneud y Testun yn fwy:
Os ydych yn defnyddio llygoden olwyn, efallai y gallech newid maint y testun drwy ddal y botwm Rheoli neu Orchymyn a throi’r olwyn. Gyda rhai porwyr gellir newid maint y testun gan ddefnyddio’r botwm Rheoli neu Orchymyn a’r botymau + a -. Gallwch hefyd ddewis y ffont, lliwiau a lliwiau’r gefnlen a’r flaenlen. Mae’r dulliau ar gyfer gwneud hyn yn amrywio o un system i’r llall:
1. Gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys yr IE Poced), defnyddiwch y Dewisiadau Offer - Rhyngrwyd.
2. Gyda’r system Firefox a phorwyr Mozilla eraill, defnyddiwch Offer - Dewisiadau;
3. Gyda’r system Safari, defnyddiwch y dewis Gweld – Gwneud y testun yn fwy;
4. Gyda’r system Opera, defnyddiwch y ddewislen Gweld - Chwyddo;
5. Gyda’r Macintosh Internet Explorer, a Netscape a 7, defnyddiwch y ddewislen Gweld – Chwyddo’r testun
Maint y sgrîn
Gallwch newid maint y sgrin, gan leihau nifer y geiriau ym mhob llinell, drwy gydio yn y llinell lwyd ar waelod ochr dde’r safle.
Darllenwyr Sgrîn
Er diogelwch, cyflwynir disgrifiadau swydd, manylebau person, canllawiau cais ac unrhyw wybodaeth arall sy’n benodol berthnasol i swydd mewn fformat .pdf ar y wefan hon. Os hoffech gopi o’r disgrifiadau swydd hyn mewn fformat Word i gyd-fynd ag anghenion eich meddalwedd darllen sgrin, e-bostiwch ein tîm GwasanaethauPoblHD@caerdydd.gov.uk
Steil a lliwiau
Rheolir y cynllun a’r steil gan ddefnyddio Taflenni Steil sy’n Rhaeadru. Dim ond un steil safonol diofyn sydd ar hyn o bryd, ond gallech greu eich steil eich hun gan ddefnyddio’r taflenni steil.
Dylai defnyddwyr Internet Explorer glicio ar ‘offer’, ‘dewisiadau’ ac wedyn y botymau ‘lliwiau’, ‘ffont’ neu ‘hygyrchedd’ er mwyn addasu’r cynnwys i fodloni eu hanghenion.
Dolenni
Mae gan nifer o ddolenni nodweddion teitl sy’n cynnig mwy o fanylion am y ddolen, oni bai fod testun y ddolen eisoes yn disgrifio’r targed yn llawn (e.e. pennawd erthygl). Ysgrifennir y dolenni i wneud synnwyr o’r cyd-destun.
Delweddau
Mae holl ddelweddau’r cynnwys a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys nodweddion ALT disgrifiadol. Nid yw’r graffeg addurniadol yn cynnwys nodweddion ALT nwl. Mae delweddau cymhleth yn cynnwys nodweddion LONGDESC neu ddisgrifiadau i egluro arwyddocâd pob delwedd i ddarllenwyr heb luniau.
Ffeiliau PDF
Mae’r Darllenydd Adobe® Acrobat® yn feddalwedd am ddim sy’n eich helpu i edrych ac argraffu ffeiliau Fformat Dogfennau Cludadwy (PDF) Adobe. Llwythwch y Darllenydd Acrobat. Gall Adobe hefyd eich helpu i gael mynediad i’r cynnwys gan ddefnyddio’r dechnoleg gefnogi megis darllenwyr sgrîn neu offer chwyddo sgîn. Gallwch gysylltu â gwefanAdobe am wybodaeth ar sut i wneud y dogfennau’n hygyrch.
Cydymffurfio â W3C
Mae Consortiwm y WeFyd-eang (W3C) yn cynnig Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG)ar gyfer y bobl sy’n creu a chynnal gwefannau.
Mae’r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i gynnig gwefannau sy’n hygyrch i bobl ag anableddau. Rhennir y canllawiau’n 3 lefel blaenoriaeth:
Blaenoriaeth 1
Blaenoriaeth 2
Blaenoriaeth 3
Mae pob tudalen ar y wefan hon yn cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 ac mae rhai tudalennau’n cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a 2.
Adborth
Rydym ni’n ceisio gwella’r wefan yn gyson ac mae adborth y defnyddwyr yn bwysig. Os bydd gennych chi unrhyw syniadau, sylwadau neu awgrymiadau ar ôl defnyddio’r wefan, e-bostiwch ein tîm GwasanaethauPoblHD@caerdydd.gov.uk