Fel cyflogwr cyflecyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’nofyniadar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadauganunigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:
•sy’n 25 oed ac yn iau;
•nad ydynt mewncyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
•o’n cymunedau lleol, ynbenodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd aLleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd;
•gallu cyfathrebu'n rhuglyn y Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol eraill.
Ni ddylai unrhyw ymgeisydd, cyflogai neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael eidrin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol/ailbennurhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, (gan gynnwyscyplauo’r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadeddrhywiol a’r Iaith Gymraeg.
Ymgeiswyrgydag anableddau
Mae Cyngor Caerdydd yn achrededig felCyflogwr Hyderus ag Anabledd ac mae’n hyrwyddo ymrwymiad i arfer da mewncyflogaeth anabledd. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn, cynigir cyfweliad i ymgeiswyrag anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, gan ofyniddynt cyn dod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i’w galluogi igymryd rhan yn y broses.
Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn
Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i gydnabod ei gefnogaeth a'i ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Byddwn bob amser yn croesawu ceisiadau am swyddi gan aelodau o'r lluoedd arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid na fyddant byth o dan anfantais annheg ar unrhyw adeg o'n proses recriwtio a dethol.
Mae'r Cyngor yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chi yn eich dewis iath boed yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog dim ond i chi roi gwybod i ni pa un sydd well gennych. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn creu urhyw oedi.
Cyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol
Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol ac yn cyfrannu’n ychwanegol at unrhyw gyflog sydd â chyfradd yr awr yn is na'r Cyflog Byw gwirfoddol er mwyn ei fod yn cyfateb â’r Cyflog Byw Gwirioneddol, sy'n uwch na'r cyfraddau isafswm cyflog a osodir gan Lywodraeth San Steffan. Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw neu i wirio'r gyfradd bresennol ewch i www.livingwage.org.uk
Bydd gennych fynediad at blatfform buddion gweithwyr sy'n rhoi arbedion i chi ar wariant bob dydd, yn ogystal ag amrywiaeth o fuddion eraill sy'n cefnogi eich iechyd a'ch lles.
Angen help i ymgeisio am y swyddi hyn? Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith
Ffôn: 029 2087 1071
Ebost: CyngoriMewniWaith@caerdydd.gov.uk