Byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn sefyll i fyny’n falch fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae’n ddinas gryno gyda phoblogaeth o tua 364,000 o bobl, a dyma’r ddinas graidd sy’n tyfu fwyaf yn y DU.  Rhagfynegir y bydd yn tyfu gan fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd.

 

Cydnabuwyd Caerdydd am y safon bywyd ragorol a geir yma ac mae ganddi enw da rhyngwladol am ei hystod eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol.  A chanddi gymysgedd amrywiol o olygfeydd diwylliannol, lleoliadau a chyfleusterau chwaraeon gyda’r gorau yn y byd, sîn gerddoriaeth fywiog, adwerthwyr unigryw yn y stryd fawr a bywyd nos byrlymus, heb os mae digon i'ch adlonni.  Hefyd, Caerdydd yw un o’r dinasoedd hawsaf ym Mhrydain i fynd o’i chwmpas ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Yn yblynyddoedd diwethaf, mae Caerdydd wedi sefydlu ei hun fel dinas arweiniol i wylio digwyddiadau chwaraeon pwysig, sy'n denu cynulleidfaoedd dros y byd i gyd. Yn 2014, bu’n ddeiliad balch teitl Prifddinas Chwaraeon Ewrop. Ni waeth p’un ai ydych chi’n lloerig am griced, yn ddilynwr pêl-droed neu'n cael eich cyffroi gan y rygbi, ni fyddwch byth yn brin o weithgareddau chwaraeon.

Yn gartref i un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru, mae gan Gaerdydd fwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw un o ddinasoedd craidd y DU. Cymerwch hoe rhag prysurdeb bywyd pob dydd yn un o’r 330 o barciau a gerddi’r brifddinas. Mae’r hafanau gwyrdd hyn, gyda’u llu o arddangosfeydd blodau a gosodiadau cerfluniol unigryw yn rhoi'r lleoliad perffaith i ymlacio a dadweindio.

 

Disgrifiodd Amy Plant Gaerdydd ar gyfer 'Lonely Planet' fel "Mae Caerdydd gryno, amlddiwylliannol yn dawnsio i'w curiad ei hun, gyda golygfeydd diwylliannol a hanesyddol helaeth, busnesau annibynnol ac awyrgylch cyfeillgar.”

 

Dim ond 30 munud o daith car o’r brifddinas mae ysblander mynyddog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Os ydych yn teimlo’n fentrus, beth am roi cynnig ar y Pen-y-Fan trawiadol, y copa uchaf i’r de o Eryri. Os ydych yn dyheu am gysur ymôr, dim ond taith fer yn y car yw Caerdydd o lawer o draethau perffaith ym Mro Morgannwg neu hafan y syrffwyr, sef Porthcawl, a thywod gloyw Bro Gŵyr.

Mae gan Gaerdydd economi ffyniannus a llewyrchus, mae ganddi gyfoeth o gyfleoedd cyflogaeth ac mae ganddi gyfleusterau chwaraeon cymunedol da.  Mae’r ysgolion yn perfformio’n dda ac mae ystod gwych o gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen at addysg bellach neu uwch. Mae’n ddinas berffaith i deuluoedd ifainc a phobl broffesiynol weithio a chwarae – beth am ymuno â ni weld drosoch eich hun!