Canllaw Cyflwyno Cais

  • Wrth gwblhau'ch ffurflen gais gallai rhai rhannau gymryd hirach na'i gilydd i'w gwneud. Felly, awgrymwn eich bod yn cadw'ch ffurflen gais wrth ei llenwi.

    Gallwch wneud hyn drwy glicio'r botwm cadw sydd ar dde uchaf eich sgrin. Wrth gadw'r ffurfflen gais anfonir dolen i'ch cyfeiriad e-bost cofrestredig. Chwiliwch eich ffolderi sothach/sbam gan y gallai'r e-byst fynd i'r ffolderi hyn. Bob tro y cadwch ffurflen gais dylai dolen newydd gael ei hanfon. Sicrhewch os ewch yn ol i'ch ffurflen gais yn ddiweddarach eich bod yn defnyddio'r ddolen ddiweddaraf a anfonwd atoch.


    DARPARU TYSTIOLAETH YN ERBYN MEINI PRAWF HANFODOL A GALLUOEDD YMDDYGIADOL YN ADRAN GWYBODAETH ATEGOL Y FFURFLEN GAIS 

  • Adran “Gwybodaeth Ategol” y ffurflen gais yw rhan bwysicaf eich cais. Dylech dalu sylw arbennig i’r adran hon, gan mai dyma lle cawn wybod pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd.  Bydd eich cais yn cael ei asesu drwy gymharu’r hyn rydych wedi ei ysgrifennu a’r meini prawf a galluoedd hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

     

    Wrth nodi anghenion swydd, rydym yn defnyddio meini prawf hanfodol/dymunol, gyda rhai ohonynt yn alluoedd ymddygiadol/technegol, a nodir hyn oll yn y fanyleb person.

     

    Rhaid ichi gyfeirio at bob un o’r meini prawf a’r galluoedd a nodir yn y fanyleb person ac ymdrin â phob un yn ei dro. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn rhoi strwythur rhesymegol i’ch gwybodaeth ategol ac yn eich galluogi i roi tystiolaeth o’r ymddygiad, profiad, gwybodaeth a sgiliau sydd gennych ymhob maes drwy roi enghreifftiau ymarferol o’ch galluoedd. Rhowch unrhyw dystiolaeth hefyd o’r gofynion dymunol sydd wedi eu nodi yn y fanyleb person.  Bydd cwblhau’r adran ‘Gwybodaeth Ategol’ fel hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael eich rhoi ar y rhestr fer.

     

    Peidiwch â rhoi cyfres o ddatganiadau heb dystiolaeth. Er enghraifft:

     

     “Mae gennyf wybodaeth am y prosesau a ddefnyddir yn y rôl” neu “Rwyf yn gyfathrebwr effeithiol”

     

    Ni fydd datganiadau moel fel hyn yn rhoi tystiolaeth i’r panel sy’n creu’r rhestr fer o’r hyn rydych wedi ei wneud.

     

    Wrth roi tystiolaeth, disgrifiwch

     

    •   yr hyn a wnaethoch,

    •   sut y gwnaethoch e,

    •   pam y gwnaethoch e, a

    •   yr effaith a gafodd,

     

    Bydd hyn yn dangos eich bod yn deall yr hyn sydd ei angen a’ch bod yn gallu ei wneud. 

  • Wrth ddarparu tystiolaeth, meddyliwch am enghraifft lle rydych wedi arddangos y maen prawf neu’r gallu a nodir a defnyddiwch fodel “STAR” fel tystiolaeth fel a ganlyn: 

  • Mae ‘Fframwaith Galluoedd Ymddygiad’ a ‘Fframwaith Galluoedd Technegol’ (pan yn berthnasol) ar gael i’ch helpu i ddeall y galluoedd y nodir hwynt yn y Fanyleb Person. I ddefnyddio’r fframweithiau galluoedd, darllenwch y ‘datganiad cychwynnol’ yn gyntaf. Mae hwn o dan deitl y gallu penodol dan sylw. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall ystyr y gallu hwnnw. Yna, edrychwch ar y lefel ar gyfer y gallu hwnnw.  Bydd y disgrifiadau a geir yn y lefel benodol yn eich helpu i ystyried pa dystiolaeth sydd angen i chi ei chyflwyno yn yr adran ‘Gwybodaeth Ategol’

  • Sylwer: Rhowch dystiolaeth o unrhyw gymwysterau proffesiynol/masnach a/neu aelodaeth o gyrff proffesiynol/masnach gofynnol (os yn berthnasol) yn adrannau ‘Addysg aHyfforddiant’ a/neu ‘Aelodaeth Cyrff Proffesiynol’ y ffurflen gais. 

     

    Ni ddylai’r adran gwybodaeth ategol gynnwys eich CV na gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost ac ati.