Hygyrchedd

  • Cymorth hygyrchedd

     

    Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio pob rhan o’r wefan yn rhwydd. Dyma gyfarwyddiadau ar sut i gael y gorau o’r wefan. Os oes gennych chi unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar sut y gallwn wella’r wefan, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r ffurflen adborth.

  • Maint y testun

     

    Os ydych yn teimlo fod maint y testun ar y wefan yn rhy fawr neu’n rhy fach, gallwch ei newid drwy glicio ar y ddolen Maint Testun A A yng nghornel chwith y safle.  Neu gallwch newid maint y testun trwy eich porwr gwe eich hunan. I newid maint y testun gan ddefnyddio’r porwr:

     

    1. Gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys yr IE poced), defnyddiwch y ddewislen Gweld - Maint Testun.

    2. Gyda Firefox a phorwyr Mozilla eraill, defnyddiwch y ddewislen Gweld - Maint Testun;

    3. Gyda Safari, defnyddiwch yr opsiwn Gweld –  Gwneud y Testun yn fwy;

    4. Gydag Opera, defnyddiwch Gweld - Dull - Defnyddwyr;

    5. Gyda Macintosh Internet Explorer, a Netscape  a 7, defnyddiwch y ddewislen Gweld – Gwneud y Testun yn fwy:

     

    Os ydych yn defnyddio llygoden olwyn, efallai y gallech newid maint y testun drwy ddal y botwm Rheoli neu Orchymyn a throi’r olwyn. Gyda rhai porwyr gellir newid maint y testun gan ddefnyddio’r botwm Rheoli neu Orchymyn a’r botymau + a -. Gallwch hefyd ddewis y ffont, lliwiau a lliwiau’r gefnlen a’r flaenlen. Mae’r dulliau ar gyfer gwneud hyn yn amrywio o un system i’r llall:

     

    1. Gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys yr IE Poced), defnyddiwch y Dewisiadau Offer - Rhyngrwyd.

    2. Gyda’r system Firefox a phorwyr Mozilla eraill, defnyddiwch Offer - Dewisiadau;

    3. Gyda’r system Safari, defnyddiwch y dewis Gweld – Gwneud y testun yn fwy;

    4. Gyda’r system Opera, defnyddiwch y ddewislen Gweld - Chwyddo;

    5. Gyda’r Macintosh Internet Explorer, a Netscape a 7, defnyddiwch y ddewislen Gweld – Chwyddo’r testun

  • Maint y sgrîn


    Gallwch newid maint y sgrin, gan leihau nifer y geiriau ym mhob llinell, drwy gydio yn y llinell lwyd ar waelod ochr dde’r safle.

  • Darllenwyr Sgrîn

     

    Er diogelwch, cyflwynir disgrifiadau swydd, manylebau person, canllawiau cais ac unrhyw wybodaeth arall sy’n benodol berthnasol i swydd mewn fformat .pdf ar y wefan hon. Os hoffech gopi o’r disgrifiadau swydd hyn mewn fformat Word i gyd-fynd ag anghenion eich meddalwedd darllen sgrin, e-bostiwch ein tîm GwasanaethauPoblHD@caerdydd.gov.uk 

  • Steil a lliwiau

     

    Rheolir y cynllun a’r steil gan ddefnyddio Taflenni Steil sy’n Rhaeadru. Dim ond un steil safonol diofyn sydd ar hyn o bryd, ond gallech greu eich steil eich hun gan ddefnyddio’r taflenni steil.

     

    Dylai defnyddwyr Internet Explorer glicio ar ‘offer’, ‘dewisiadau’ ac wedyn y botymau  ‘lliwiau’, ‘ffont’ neu ‘hygyrchedd’ er mwyn addasu’r cynnwys i fodloni eu hanghenion.

  • Dolenni

     

    Mae gan nifer o ddolenni nodweddion teitl sy’n cynnig mwy o fanylion am y ddolen, oni bai fod testun y ddolen eisoes yn disgrifio’r targed yn llawn (e.e. pennawd erthygl). Ysgrifennir y dolenni i wneud synnwyr o’r cyd-destun.

  • Delweddau

     

    Mae holl ddelweddau’r cynnwys a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys nodweddion  ALT disgrifiadol. Nid yw’r graffeg addurniadol yn cynnwys nodweddion ALT nwl. Mae delweddau cymhleth yn cynnwys nodweddion  LONGDESC neu ddisgrifiadau i egluro arwyddocâd pob delwedd  i ddarllenwyr heb luniau.

  • Ffeiliau PDF

     

    Mae’r Darllenydd Adobe® Acrobat® yn feddalwedd am ddim sy’n eich helpu i edrych  ac argraffu ffeiliau Fformat Dogfennau Cludadwy (PDF) Adobe. Llwythwch y Darllenydd Acrobat. Gall Adobe hefyd eich helpu i gael mynediad i’r cynnwys gan ddefnyddio’r dechnoleg gefnogi megis darllenwyr sgrîn neu offer chwyddo sgîn. Gallwch gysylltu â gwefanAdobe am wybodaeth ar sut i wneud y dogfennau’n hygyrch.

  • Cydymffurfio â W3C


    Mae Consortiwm y WeFyd-eang (W3C) yn cynnig Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG)ar gyfer y bobl sy’n creu a chynnal gwefannau.

     

    Mae’r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i gynnig gwefannau sy’n hygyrch i bobl ag anableddau. Rhennir y canllawiau’n 3 lefel blaenoriaeth:

     

    Blaenoriaeth 1

    Blaenoriaeth 2

    Blaenoriaeth 3

     

    Mae pob tudalen ar y wefan hon yn cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 ac mae rhai tudalennau’n cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a 2.

  • Adborth

     

    Rydym ni’n ceisio gwella’r wefan yn gyson ac mae adborth y defnyddwyr yn bwysig. Os bydd gennych chi unrhyw syniadau, sylwadau neu awgrymiadau ar ôl defnyddio’r wefan, e-bostiwch ein tîm GwasanaethauPoblHD@caerdydd.gov.uk