Am Y Gwasanaeth
Fel ymdrech hirdymor, adeiladwyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol sy’n cwmpasu’r deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawr y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei ddiwygio yn blaenoriaethu nifer o sectorau a gweithgareddau a all helpu’r rhanbarth orau i ddangos twf cynaliadwy a chynhwysol dros y cyfnod hir.
Am Y Swydd
Mae rôl yr Arweinydd Cyfathrebu yn rôl ganolog, a bydd eich cyfraniad chi tuag at broffil, gwelededd ac enw clodwiw buddsoddiadau ac ymyriadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn sylweddol. Fe fyddwch yn gyfrifol am:
- Gweithredu cynllun a gymhellir gan bwrpas, cyfathrebiadau a chynnwys sy’n gwerthfawrogi naws rôl esblygol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r sensitifrwydd gwleidyddol / economaidd a chymdeithasol sy’n nodweddu’n hamgylchedd gweithredu.
- Cyflawni cynllun tactegol sy’n cynnwys rhaglen barhaus o gynnwys gafaelgar, deniadol, awdurdodol, diledryw a dylanwadol.
- Arwain y gorchwyl o greu cynnwys gafaelgar ar gyfer yr holl lyfrynnau / prosbectysau / gweithgareddau Cysylltiadau Cyhoeddus corfforaethol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Disgwyliwn ichi fod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac yn dangos ymrwymiad i gynorthwyo rhaglen ranbarthol ffyniannus, gan ddangos dawn ac egni. Fe fyddwch yn uwch-arweinydd cyfathrebu uchel ei barch gydag ystod eang o brofiad o ddatblygu cynnwys a chopi gafaelgar. A chithau’n gyfathrebwr hyderus a dawnus, fe fyddwch yn fedrus wrth ymchwilio ac ysgrifennu copi diddorol sy’n gallu chwyddo’ch diben craidd, sicrhau sylw cynyddol ac ymestyn ein cyrhaeddiad a’n dylanwad. Fe fydd gennych y gallu i chwilio am y penawdau sydd ynghudd ym manylion cynigion, ac fe fyddwch yn ffynnu ar amrywiaeth y rôl.
Os oes gennych yr egni, y cadernid a’r dyfeisgarwch i helpu i adrodd stori wych, mae arnom eisiau clywed gennych.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu'r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.
Mae'r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu post.
Mae'r swydd wag hon yn cynnwys oriau hyblyg a chyfuniad o weithio yn y swyddfa ac yn y cartref.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd yr amgylchiadau COVID-19 presennol bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rhithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Suzanne.chesterton@caerdydd.gov.uk.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Atodiadau