Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn anelu at ddarparu Gwasanaeth o ansawdd dda ac uchel. Mae swydd wag ar gael fel Hyfforddai Tai o fewn yr Hybiau Cymunedol, sef Hyb Ystum Taf a Gabalfa.

Am Y Swydd

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd ar raglen hyfforddiant i gynnig gwasanaeth cynghori proffesiynol, wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, gan gynnwys pob agwedd ar y Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Diwygio Lles, Cyngor Ariannol, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, yn ogystal â darpariaeth Llyfrgell. Bydd rhaid i’r person llwyddiannus hefyd dysgu sut i ddatrys problemau sy’n ymwneud â ystod eang o wasanaethau a darparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Does dim angen i chi gael cymhwyster ffurfiol neu fod gennych profiad yn y maes, ond bydd angen i’r person llwyddiannus fod ganddo sgiliau cyfathrebu dda, yn ogystal â’r gallu i addasu a dysgu’n gyflym ar y swydd. Bydd agwedd positif sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn allweddol, gan fydd angen i chi gweithio i derfynau amser a thargedau. Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, yn fantais. Byddai profiad defnydd systemau TG hefyd yn fantais. Mae nifer fawr o gyrfaoedd o fewn y Cyngor, ac bydd cyfleoedd i symud lan, yn ogystal â’r opsiwn i weithio’n hyblyg. Does dim gwarantu ennill swydd parhaol ar ddiwedd y cynllun hyfforddiant 18 mis; fodd bynnag, byddem ni yn rhoi cyngor a sgiliau i'r person llwyddiannus ar gyfer sut i ymgeisio ar gyfer swyddi addas o fewn y gwasanaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol ar ôl darllen y ddisgrifiad swydd, cysylltwch â Joe Boyle ar 02920 785588. Mae’r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2023.

 

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Fel cyflogwr cyfleoedd cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.

 

Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini isod:

 

  • dan 25 oed
  • nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
  • o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd
  • sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd amgylchiadau COVID-19, cynhelir cyfweliadau ar-lein. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, cysylltwch â Joe Boyle ar 02920 785588.

Atodiadau