Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Ynglŷn â'r hyfforddeiaeth

Mae gennym 3 cyfle cyffrous i hyfforddai llawn amser o fewn y Gwasanaethau Parciau.  Mae pob swydd yn hyfforddeiaeth 3 blynedd cyflogedig sy'n cynnwys rhyddhau am ddiwrnod i fynd i'r coleg, wedi'i ariannu'n llawn, gan ganiatáu ichi ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y ddisgyblaeth berthnasol. Byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn drwy gydol eich hyfforddeiaeth gan fentor penodedig a fydd wrth law bob cam o'r ffordd.  Drwy gydol yr hyfforddeiaeth byddwch yn gweithio ochr yn ochr ac yn cael cefnogaeth gan rai o'r timau gorau sydd, gan ennill y wybodaeth a'r profiad i ddatblygu eich hun i efallai yn Brentis y flwyddyn nesaf posib i CRhGC.  Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant mewnol ar wahanol offer, peiriannau, ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi corfforaethol

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sydd â’r mwyaf o wyrddni yn y Deyrnas Gyfunol ac mae’r Cyngor yn cydnabod bod y parciau a’r mannau agored yn chwarae rhan allweddol yn llesiant cyffredinol dinasyddion y ddinas. Ar hyn o bryd mae gennym un ar bymtheg o barciau a mannau agored sy'n dal statws Baner Werdd ac yn hanesyddol rydym wedi llwyddo i ennill medalau aur  Britain in Bloom ac Entente Florale, yn ogystal â chael gwobrau yn sioeau yr RHS yng Nghaerdydd, Tatton a Chelsea. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi ennill gwobr cyflogwr gan y Gymdeithas Rhagoriaeth Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer cynllun hyfforddeiaeth y Parciau, a diweddaraf yn 2022 pan enillodd un o'n hyfforddeion Brentis y Flwyddyn CRhGC.

3X HYFFORDDAI GARDDWRIAETH A CHYNNAL A CHADW

Byddwch chi'n gweithio ym mharciau a mannau agored hardd Caerdydd, gan ddysgu sgiliau drwy raglen fewnol o hyfforddiant ymarferol. Caiff hyn ei ategu gan astudiaeth tuag at gymhwyster proffesiynol mewn Garddwriaeth Amwynderau a gweithrediadau cysylltiedig, megis:

 

  • Dylunio a phlannu arddangosfeydd blodau tymhorol
  • Cynnal a chreu arddangosfeydd parhaol a gwelyau llwyni
  • Darparu caeau chwarae o safon uchel
  • Lluosogi planhigion
  • Rheoli glaswelltiroedd
  • Gweithredu gwahanol beiriannau garddwriaethol

 

Mae hyn i gyd yn gwella treftadaeth arddwriaethol falch y ddinas ac yn cyfrannu at gynnal a chadw ein hamgylchedd a'n hecosystemau bregus.  Mae’r cynllun hyfforddeiaeth yn ffordd ddelfrydol o ddod o hyd i’r ymgeiswyr cywir i ennill profiad mewn amrywiaeth o weithrediadau awyr agored, a datblygu gyrfa mewn Garddwriaeth a Rheoli Mannau Agored.

I gael sgwrs anffurfiol am y cynllun, cysylltwch â John Court drwy ebostio Parciau@caerdydd.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys Manyleb person a Disgrifiad Swydd, a chanllaw ar sut i wneud cais, ewch i www.caerdydd.gov.uk/swyddi

Atodiadau