Ynglŷn â’r Gwasanaeth
Yn sgil ailstrwythuro gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DACCh) newydd ar gyfer Rheolwr MaTh cymwys i arwain ar amrywiaeth o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu gan ddefnyddio adnoddau mewnol ac allanol.
Mae'r Tîm DACCh newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.
Ynglŷn â’r swydd
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau bod gwasanaethau dichonoldeb technegol, asesu a dylunio MaTh yn cael eu darparu’n effeithiol, a chynorthwyo'n rhagweithiol gyda’r gwaith o gyflawni ystod o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli Peirianwyr MaTh a hefyd yn mynd ati'n rhagweithiol i reoli'r ddarpariaeth allanol o wasanaethau a gwaith yn ôl y galw gyda'r amcan parhaus o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Mecanyddol neu Drydanol (Siartredig neu gyfatebol) sydd â phrofiad da o reoli adnoddau technegol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau sy'n gysylltiedig ag adeiladu ar draws amrywiaeth o fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:
- gwybodaeth dda am y polisïau a’r fframweithiau rheoleiddio sy'n berthnasol i adeiladu a rheoli adeiladu;
- gwybodaeth dechnegol dda am dechnegau adeiladu;
- profiad ymarferol o gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu;
- sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a
- sgiliau trefnu personol cryf a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.
Rhagor o Wybodaeth
Rhagor o Wybodaeth
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
I gael sgwrs anffurfiol a mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â:
- Mian Saleem, Rheolwr Gweithredol ar y rhif ffôn: 07773 473502 neu drwy e-bost: MSaleem@caerdydd.gov.uk
- Ilaria Geronzi, Rheolwr Dylunio ar y rhif ffôn: 07977 605981 neu drwy e-bost: ilaria.geronzi2@caerdydd.gov.uk
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Pecyn Buddion y Cyngor
Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (trwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cymorth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eich un chi.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth ychwanegol:-
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Atodiadau