Am Y Gwasanaeth
Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n amser llawn (37 awr yr wythnos), neu £12 yr awr pro-rata, gan ein bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Adolygir y Cyflog Byw bob blwyddyn ac mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw, neu ei ddileu.
Mae ein Gwasanaeth Cymorth Cynnar, ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd, yn edrych i gyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) - Cynorthwyydd Cyllid i fod yn rhan o'n Huned Fusnes yn y Ganolfan Gynadledda, Eastmoors Road, Sblot. CF24 5RR.
Byddwch yn rhan o dîm Cymorth Busnes sefydledig sydd â phrofiad amlwg o ddarparu cymorth swyddfa gefn i dimau sy'n ymwneud â'r cyhoedd sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar draws Cymorth Cynnar. Yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac ariannol i gefnogi'r tîm gydag iechyd a diogelwch, cyllid, prynu, rheoli adeiladau, archebion cyfleusterau a swyddogaethau gweinyddol eraill.
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i ddinasyddion Caerdydd, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau. Gan ei bod yn bwysig i ni fod ein gweithlu yn adlewyrchu’n well y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a'n bod yn cefnogi ein trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, rhaid i chi fyw o fewn ffiniau Caerdydd i fod yn gymwys i wneud cais am y rôl Prentis Corfforaethol hon. Gwiriwch eich cod post yma: http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx
Bydd y rôl hon yn cynnwys cymysgedd o weithio gartref a swyddfa (hybrid), er yn gweithio yn y swyddfa i ddechrau tra bod hyfforddiant yn digwydd.
Am Y Swydd
Yn y swydd Prentis Corfforaethol (Lefel 2) hon byddwch yn dysgu ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau i gefnogi tîm yr Uned Fusnes gan gynnwys cynorthwyo gyda chodi archebion a thaliadau, i gefnogi rhedeg y gwasanaeth Cymorth Cynnar yn effeithlon ac yn effeithiol
Er mwyn cefnogi eich datblygiad, byddwch hefyd yn ymgymryd â Chymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn Cyfrifeg CTC (AAT) Lefel 2 yn y rôl a byddwch yn derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth yn y swydd i'ch helpu i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn modd cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan fentor wedi ei enwi a fydd yn eich annog i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy i gefnogi dilyniant eich gyrfa.
Mae llawer o'n timau'n gweithio ar-lein gyda chymysgedd o weithio gartref neu hybrid (swyddfa). Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer a’r hyfforddiant angenrheidiol yn cael eu rhoi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Yr oriau gwaith yw Dydd Llun i Ddydd Gwener ac rydym yn gweithio ar Gynllun Fflecsi sydd i'w gytuno gyda'r tîm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch Jackie Hannay, Rheolwr Busnes a Pherfformiad, ar jhannay@caerdydd.gov.uk
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl, sydd â diddordeb yn ein gwaith ac mewn helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Fel Prentis Corfforaethol byddwch chi’n ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i Gaerdydd - y Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y byddwch yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, cewch eich cefnogi a'ch annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn helpu i ddatblygu eich gyrfa.
I fod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon, rhaid i chi fyw yng Nghaerdydd ac ni allwch fod wedi ennill y cymhwyster prentisiaeth (NVQ) a gynigir yn y rôl hon eisoes ar yr un Lefel neu uwch. Gwiriwch fod eich cyfeiriad o fewn ffiniau Caerdydd yma http://ishare.caerdydd.gov.uk/mycardiff.aspx
Gall graddedigion sy'n byw yng Nghaerdydd fod yn gymwys i wneud cais am ein rolau prentisiaeth ar Lefel 3 neu uwch, ar yr amod bod y modiwlau gradd yn wahanol i gynnwys y cymhwyster prentisiaeth a gynigir yn y rôl.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am rolau eraill rydym yn eu hysbysebu. Gallwch weld ein swyddi gwag eraill yn www.caerdydd.gov.uk/swyddi
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae’r swydd hon dros dro am 18 mis os caiff ei gweithio'n llawn-amser, neu'n hwy os caiff ei gweithio'n rhan-amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan-amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol, gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bwriedir cynnal cyfweliadau yn yr 20 Tachwedd, gyda dyddiad cychwyn wedi'i gynllunio ar gyfer 8 Ionawr 2025.
I gael gwybod mwy am ein sefydliad i gefnogi’ch cais, neu gyfweliad posibl yn y dyfodol, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor. Dilynwch ni ar X, Facebook, Instagram, tanysgrifiwch i'n Sianel YouTube, neu ewch i'n gwefan www.caerdydd.gov.uk i ddysgu mwy.
Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith yn www.imewniwaithcaerdydd.co.uk neu 02920 871 071