YNGLŶN Â'R GWASANAETH
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 3 Uwch Gynorthwyydd Clercaidd llawn-amser i roi cymorth i nifer o dimau gwaith cymdeithasol o fewn y Gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anabledd Corfforol.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn chwarae rhan hanfodol mewn cymdeithas drwy gefnogi unigolion sydd angen help oherwydd oedran, anabledd, neu salwch cronig. Dyma rai agweddau allweddol:
- Cefnogi Annibyniaeth: Helpu unigolion i fyw'n annibynnol drwy ddarparu dyfeisiau cynorthwyol, addasiadau cartref, a gwasanaethau gofal personol.
- Gwella Ansawdd Bywyd: Sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd sy'n gysylltiedig ag oedran, amhariadau, neu glefydau cronig yn cael ansawdd bywyd uchel drwy wasanaethau fel gofal personol, cymorth symudedd, a gofal cydymaith.
- Lleihau Derbyniadau i’r Ysbyty: Cynnig rhaglenni gofal ataliol ac adsefydlu i leihau'r straen ar ysbytai a gwasanaethau brys.
- Cefnogi Teuluoedd a Gofalwyr: Darparu cymorth arbenigol, cymorth yn y cartref, a gofal seibiant i leihau'r straen ar deuluoedd sy'n gofalu am aelodau oedrannus neu anabl.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo lles, annibyniaeth ac ansawdd bywyd i oedolion agored i niwed yn y gymuned.
YNGLŶN Â’R SWYDD
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm, yn ateb galwadau ffôn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau teulu, darparwyr gofal ac asiantaethau eraill. Bydd galwadau yn cynnwys casglu gwybodaeth berthnasol, cyfeirio a gwneud galwadau ffôn i gymryd camau dilynol gyda chydweithwyr a/neu sefydliadau allanol. Byddwch yn rhoi cymorth gweinyddol sy’n cwmpasu ystod eang o ddyletswyddau i’r tîm, gan gynnwys cymryd cofnodion, teipio llythyrau, rheoli cronfeydd data, diweddaru a chynnal cofrestrau a rhoi cymorth gweinyddol cyffredinol i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr.
Mae'r rolau yn rhai llawn amser (37 awr yr wythnos) a phan fydd yr hyfforddiant wedi'i gwblhau, byddant yn cynnwys gweithio hybrid – yn y swyddfa a gweithio gartref.
YR HYN RYDYM YN EI DDISGWYL GENNYCH CHI
Mae profiad blaenorol mewn rôl weinyddol, yn ddelfrydol o fewn gwasanaethau cymdeithasol neu faes cysylltiedig yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn hyblyg, yn gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac yn gallu defnyddio cyfrifiaduron, gyda phrofiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office.
Byddwch chi’n ymdrin â rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd o ddydd i ddydd ac mae natur ofalgar ac empathig yn hanfodol, yn ogystal â gallu rheoli sgyrsiau i gefnogi unigolion a sicrhau bod gwybodaeth berthnasol a phriodol yn cael ei chasglu er mwyn cymryd camau dilynol a chyfeirio eu hymholiadau yn briodol.
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn amgylchedd sy'n newid yn gyson, felly mae'r gallu i ddysgu ac addasu'n gyflym yn hanfodol yn ogystal â bod yn agored i gyfleoedd newydd a chael dull cadarnhaol. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
GWYBODAETH YCHWANEGOL
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:
- sy’n 25 oed ac iau;
- nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd yn arbennig;
- sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg.
Atodiadau