Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae gan Gyngor Caerdydd Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng achrededig sy'n llawn offer ac sy'n cynnig gwasanaeth 24/7 365 diwrnod y flwyddyn i lawer o'r adeiladau uchel a safleoedd y cyngor ledled y Ddinas. Yn gysylltiedig â Chanolfan Derbyn Larymau'r Cyngor mae'r tîm Wardeiniaid Ardal. Mae'r wardeiniaid yn gweithredu fel tîm ymateb y Ganolfan, yn delio â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn ymateb i larymau adeiladu.

Am Y Swydd

Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i unigolyn brwdfrydig ymuno â'n tîm fel Uwch Warden Ardal Leol yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd. Mae'r Wardeiniaid Ardal yn gweithio 365 diwrnod y flwyddyn yn cynnal patrolau dyddiol o flociau fflatiau uchel y Cyngor ac yn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac i larymau adeiladau fel deiliaid Allweddi. Y wardeiniaid yw'r cyswllt rhwng yr adran dai a'r gymuned ac mae'n ofynnol iddynt ryngweithio â phreswylwyr wyneb yn wyneb yn ddyddiol, felly mae sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da yn hanfodol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd angen Uwch Warden Ardal, nid yn unig i ymuno â'r Wardeiniaid ar batrolau a digwyddiadau dyddiol ond hefyd i fod yn rhannol gyfrifol am oruchwylio'r Wardeiniaid Ardal, gan weithio'n agos gyda'r Arweinydd Tîm i sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu i'r safon uchaf.  Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn debygol o allu gweithio’n dda fel aelod o dîm a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, gan feddu ar y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol gyda phob gwasanaeth i sicrhau bod cymaint o alwadau â phosibl yn cael eu datrys ar y cam cyntaf gyda lefel uchel o foddhad cwsmeriaid.  Yn ogystal, byddai natur empathig a'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd galwadau brys o fudd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn, gan gynnwys Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc. Mae patrwm sifft priodol ar waith, sef 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd gyda gwelliannau a lwfansau perthnasol yn cael eu darparu.  Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi, cyn dechrau'r rôl.

 Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae trwydded yrru ddilys lawn yn hanfodol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

 Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Mark Gale (mark.gale@caerdydd.gov.uk).

Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs.  Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

  • Canllaw ar Wneud Cais
  • Gwneud cais am swyddi gyda ni
  • Gwybodaeth Ychwanegol y Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiad:-
  • Siarter Cyflogeion
  • Recriwtio Cyn-Droseddwyr
  • Hysbysiad Preifatrwydd

 

Atodiadau