Datganiad Polisi ar Recriwtio Cyn-droseddwyr

  • 1. Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Caerdydd i asesu pa mor addas mae ymgeiswyr am swyddi sydd wedi eu cynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau), gan ddefnyddio gwiriadau cofnodion troseddol drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).

  • 2. Rydym yn cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer y DBS acrydym wedi ymrwymo i drin pob ymgeisydd am swydd yn deg. 

  • 3. Rydym yn ymrwymo i beidio â chamwahaniaethu’n annheg yn erbyn unrhyw un y gwneir gwiriad troseddol arno neu arni oherwydd collfarn neu wybodaeth arall a ddatgelir. 

  • 4. Rydym wedi ymrwymo i drin ein staff, darpar staff neu ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn deg, waeth beth yw eu hoed, anabledd, hunaniaeth/ailbennu rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol eu statws o ran y Gymraeg neu eu cefndir troseddol. 

  • 5. Rydym yn hybu cyfle cyfartal yn weithredol ar gyfer pawb â’r cyfuniad cywir o dalent, sgil a photensial, ac yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys rhai sydd â record droseddol. Mae ymgeiswyr yn cael eu dewis ar gyfer cyfweliad ar sail eu sgiliau, cymwysterau a phrofiad. 

  • 6. Dim ond pan fo asesiad risg trylwyr wedi awgrymu y byddai gwneud cais am Ddatgeliad yn gymesur ac yn berthnasol i’r swydd dan sylwy gwneir cais o’r fath. Pan fo angen Datgeliad, bydd pob hysbyseb swydd, ffurflen gais a nodyn briffio yn cynnwys datganiad y byddai angen tystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pe bai’r unigolyn yn cael cynnig y swydd. 

  • 7. Dim ond collfarnau a rhybuddion y mae gennym hawl gyfreithiol i wybod amdanynt y byddwn yn gofyn am eu manylion gan unigolyn. Hynny yw, pan ellir yn gyfreithlon wneud cais am dystysgrif GDG sylfaenol neu fanwl (pan fo’r swydd yn un sydd wedi ei chynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 fel y’i diwygiwyd, a Rheoliadau’r Ddeddf Heddlu fel y’i diwygiwyd pan fo hynny’n briodol. 

  • 8. Dim ond am gollfarnau a rhybuddion nad ydyn nhw’n rhai wedi eu diogelu y byddwn yn holi unigolyn. 

  • 9. Byddwn yn sicrhau bod pawb sydd ynghlwm wrth y broses recriwtio wedi ei hyfforddi’n briodol i nodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau. Byddwn hefyd yn sicrhau eu bod wedi derbyn canllawiau a hyfforddiant addas yn y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol at gyflogi cyn-droseddwyr, e.e. Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. 

  • 10. Yn ystod y cyfweliad, neu mewn trafodaeth ar wahân, byddwn yn sicrhau y cynhelir sgwrs agored a phwyllog ynghylch unrhyw droseddau neu faterion eraill a allai fod yn berthnasol i’r swydd. Gallai methu â datgelu gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’r swydd yr ymgeisir amdani arwain at dynnu cynnig cyflogaeth yn ôl. 

  • 11. Rydym yn ymrwymo i drafod unrhyw fater a ddatgelir ar dystysgrif GDG gyda’r unigolyn sy’n gwneud cais am y swydd cyn tynnu cynnig amodol o gyflogaeth yn ôl. 

  • 12. Bydd y polisi hwn ar recriwtio cyn-droseddwyr yn cael ei wneud ar gael i bob ymgeisydd GDG ar gychwyn y broses recriwtio. 

  • 13. Byddwn yn sicrhau bod pawb sy’n destun Datgeliad ynymwybodol bod cod ymarfer yn bodoli ac yn sicrhau bod copi ar gael ar gais.