Safonau Caerdydd
Bydd Cyflogeion yn:
1. Cymryd rhan yn agendâu’r Cyngor o ran cynnwys cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg
2. Cymryd rhan weithredol yn y broses o ddatblygu a gweithredu ein dulliau o weithio yn y dyfodol
3. Gweithio’n hyblyg ac addasu sgiliau ac agweddau i ddiwallu anghenion y Cyngor sy’n newid ac yn datblygu
4. Cyfrannu barn a syniadau yn rhagweithiol, a chymryd rhan yn y broses o ddod o hyd iatebion
5. Nodi anghenion a chyfleoedd dysgu a datblygu personol
6. Croesawu newid, syniadau newydd a heriau
7. Cyfrannu’n weithredol at Adolygiadau Personol a chymryd cyfrifoldeb personol am gyflawni pethau
8. Deall gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r Cyngor a gweithio â’r nod o’u Cyflawni
9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau
Bydd Rheolwyr yn:
1. Hybu amgylchedd sy’n annog cynnwys cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg
2. Sicrhau dialog ystyrlon ac adeiladol â chyflogeion, Undebau Llafur a Rhwydweithiau Cydraddoldeb o ran datblygu a gweithredu ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol
3. Ystyried effaith hirdymor newidiadau i wasanaethau a’u heffaith ym mhob rhan o’r Cyngor ac ar y gweithlu, gan gynnwys nodi gofynion o ran sgiliau
4. Sicrhau Cyfathrebu Ac Ymgysylltu Amserol ddwy ffordd, gan annog cyflogeion i fynegi eu barn e.e. cyfarfodydd tîm, cyfarfodydd un-i-un, sesiynau briffio ac ati
5. Rhoi Arweiniad A Mynediad I Gyfleoedd Dysgu a datblygu a dargedwyd
6. Annog a chynorthwyo diwylliant o wella parhaus yn Weithredol
7. Dangos Ymrwymiad I Reoli Perfformiad, Nodi a chydnabod perfformiad da ac ymdrin yn deg â pherfformiad gwael
8. Rhoi Arweiniad Clir A Gweladwy Yn Unol  gwerthoedd ac ymddygiadau’r Cyngor
9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau
Bydd Uwch Reolwyr yn:
1. Creu amgylchedd sy’n cynorthwyo cynnwys cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg
2. Sicrhau Bod Gan Gyflogeion, Undebau Llafur a Rhwydweithiau Cydraddoldeb rôl allweddol o ran datblygu a gweithredu ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol
3. Sicrhau bod gan y Cyngor y bobl briodol sy’n meddu ar y sgiliau priodol yn y mannau priodol ar yr adeg briodol ac ar gost briodol
4. Sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu amserol a dwy ffordd â chyflogeion
5. Llunio Cynlluniau Datblygu Cyfarwyddiaeth yn seiliedig ar ganlyniadau’r broses AP sy’n mynd i’r afael â gofynion sgiliau’r dyfodol
6. Sicrhau diwylliant o welliant parhaus
7. Dangos ymrwymiad i reoli perfformiad a sicrhau bod Rheolwyr yn meddu ar y sgiliau i reoli perfformiad Cyflogeion
8. Rhoi arweiniad clir a gweladwy yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r Cyngor
9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau