Ymgeisio am swyddi gyda ni

  • Mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan recriwtio i’w chwarae gyda’i ymrwymiad i’r Gymraeg ac wrth geisio gweithredu ar hyn, mae ein proses recriwtio yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, gyda hysbysebion a dogfennau ategol ar gael yn y ddwy iaith.

     

    Y ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais am swydd gyda Chyngor Caerdydd yw ar-lein. Er mwyn gwneud cais ar-lein, cliciwch ar ‘Ymgeisio Nawr’ ar ben yr hysbyseb swydd neu ar y gwaelod ar yr ochr dde, a bydd y ffurflen gais yn ymddangos.

     

    Mae bob hysbyseb ar ein safle gyrfaoedd yn cau am 11:59pm ar y dyddiad cau penodol. Talwch sylw arbennig i ddyddiad cau’r hysbyseb, gan nad oes modd cyflwyno ceisiadau ar-lein ar ôl i’r dyddiad cau fynd heibio. Yn ogystal, pan fydd yr hysbyseb am swydd yn dod i ben, ni fydd disgrifiadau swydd a manylebau person ar gael ar y wefan mwyach, a gan ystyried hyn, fe’ch cynghorir i gadw copi i’ch gyriant lleol.

     

    Mewn amgylchiadau eithriadol, os nad yw’n bosibl i chi ymgeisio ar-lein, gallwch ofyn am becyn ymgeisio drwy ffonio (029) 2087 2222 a dyfynnu cyfeirnod y swydd.

     

    Os oes angen help arnoch i gwblhau’r cais, cysylltwch â Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor, sy’n gallu rhoi help am ddim i unrhyw breswylydd Caerdydd sy’n chwilio am waith neu sy’n bwriadu gwella eu sgiliau yn eu swydd bresennol. Ffoniwch(029) 20871071 neu defnyddiwch y ddolen ganlynol i gysylltu â nhw:-

     

    https://www.intoworkcardiff.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni/ 

  • Cwblhau eich Cais


    Mae’n rhaid i’r wybodaeth rydych yn ei rhoi fod yn gywir. Os byddwch yn cuddio neu’n camddehongli gwybodaeth berthnasol ar unrhyw gam yn ystod y broses recriwtio, gall eich cais gael ei wahardd.


    Adran Gwybodaeth Ategol


    Yr adran gwybodaeth ategol yw’r rhan bwysicaf o’ch ffurflen gais gan y bydd y penderfyniad p’un a fyddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ai peidio yn dibynnu ar y wybodaeth a roddir yno yn bennaf. Wrth ddrafftio’r adran hon, rhowch sylw arbennig i’r fanyleb person, gan mai dyma restr yr holl feini prawf hanfodol a dymunol ynghyd â chymwyseddau ymddygiadol y bydd angen i chi eu harddangos. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cyfeirio at bopeth yn eich ffurflen gais er mwyn cael eich ychwanegu at y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Am gymorth, cyfeiriwch at Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol sydd ar gael ar ein gwefan drwy glicio ar y ddolen isod. Cewch hefyd ein dogfen Canllawiau Ymgeisio sy’n darparu rhagor o wybodaeth ar sut i strwythuro’r dystiolaeth rydych yn ei chynnig yn erbyn y cymwyseddau.


    Ni ddylai’r adran gwybodaeth ategol gynnwys eich CV na gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost ac ati.


    Geirdaon


    Wrth gwblhau eich cais gofynnir i chi roi enw a manylion cyswllt dau ganolwr, y mae’n ofynnol i un ohonynt fod y'ch cyflogwr presennol neu ddiwethaf. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth o’r blaen, byddwn yn gofyn am ganolwr i’ch cymeriad, megis tiwtor yn y coleg, athro, neu rywun arall nad yw’n perthyn i chi, a all wneud sylwadau ar eich addasrwydd. Ni fyddwn yn cysylltu â chanolwyr tan ar ôl y gwneir cynnig cyflogi ffurfiol.


    Collfarnau Troseddol


    Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn nodi nad oes angen i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau troseddol sydd wedi’u disbyddu wrth wneud cais am swydd. Fodd bynnag, mae rhai swyddi wedi eu heithrio o ddarpariaethau’r ddeddf hon, a olyga fod yn rhaid i chi ddatgan ar y ffurflen gais yr holl euogfarnau, rhybuddion a cheryddon ac ati sydd gennych, boed hynny’n rhai wedi eu disbyddu ai peidio. Bydd y ffurflen gais yn datgan yn glir yr hyn sydd angen i chi ei ddatgelu.


    Datgan Buddiannau


    Wrth wneud cais am swydd gyda’r Cyngor, gofynnir i chi ddatgelu unrhyw berthynas a all fod gennych ag aelod etholedig neu uwch swyddog y Cyngor. Hefyd, bydd gofyn i chi ddatgan p’un a ydych chi nawr neu wedi bod yn aelod etholedig y Cyngor yn y deuddeg mis diwethaf a p’un a oes unrhyw fusnes neu ddiddordebau eraill gennych, a fyddai’n achosi gwrthdaro gwirioneddol neu ymddangosiadol â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau fydd gan y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.

  • Rhestr fer


    Recriwtio dienw

     

    Mae’r Cyngor yn cofleidio cydraddoldeb ac amrywiaeth. Er mwyn sicrhau bod penderfyniadau am y rhestr fer yn rhydd o duedd, bydd manylion adnabod yr holl ymgeiswyr yn ein ffurflenni cais yn weledol i reolwyr recriwtio yn unig ar ôl iddynt gyflawni’r cam dethol ar gyfer y rhestr fer. O ystyried hyn, bydd unrhyw ohebiaeth a gewch hyd at y cam hwnnw o’r broses yn cael ei chyfeirio atoch fel ‘ymgeisydd’ yn hytrach na gyda’ch enw. Os hoffech holi am rywbeth yn ymwneud â’ch cais, cyn i’r adeg pan fydd y rhestr fer wedi ei chreu, bydd angen i chi ddyfynnu eich rhif ymgeisydd a gaiff ei gynnwys yn yr e-bost y byddwch yn ei gael yn cydnabod eich cais.


    Ymgeiswyr gydag anableddau

     

    Mae Cyngor Caerdydd yn achrededig fel Cyflogwr Hyderus ag Anabledd ac mae’n hyrwyddo ymrwymiad i arfer da mewn cyflogaeth anabledd. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn, cynigir cyfweliad i ymgeiswyr ag anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, gan ofyn iddynt cyn dod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i’w galluogi i gymryd rhan yn y broses.

  • Cynnig Cyflogaeth

     

    Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad cynhelir nifer o wiriadau cyn cyflogaeth a all fod yn ofynnol yn ddibynnol ar y swydd y cewch eich recriwtio amdani ac ar p’un a ydych yn gyflogai Cyngor Caerdydd ar hyn o bryd.  Mae’r gwiriadau cyn cyflogaeth fel a ganlyn:-

     

    Geirdaon

    Gwiriad Iechyd Galwedigaethol

    Gwiriad Hawl i Weithio

    Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

    Cofrestriad â Chyngor Gweithlu Addysg

    Cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru

     

    Caiff gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â gwiriadau cyn cyflogaeth sy’n berthnasol i’ch cynnig am gyflogaeth eu cynnwys yn eich pecyn cynnig amodol.

  • Rhannu Data

     

    Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018

     

    Mae dyletswydd ar Gyngor Caerdydd i ddiogelu arian y cyhoedd y mae’n ei weinyddu ac felly gall ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar eich ffurflen gais at ddibenion atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio a gweinyddu arian cyhoeddus at yr un diben.

     

    Am ragor o wybodaeth, gweler ein Hysbysiad Prosesu Teg - Testun Cryno yn:

     

    www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyllid-y-cyngor/Rheoli-Cyllid-y-Cyngor/Pages/default.aspx 

     

    ynghyd â Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor:

     

    www.cardiff.gov.uk/CYM/Hafan/Ymwadiad/Pages/default.aspx

     

    Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Hysbysiad Prosesu Teg – Testun Llawn ar wefanSwyddfa Archwilio Cymru:

     

    www.audit.wales/cy/polisi-preifatrwydd-chwcis

     

    neu cysylltwch â Swyddog Diogelu Data yn:

     

    Neuadd Y Sir

    Caerdydd

    CF10 4UW

    Drwy rif ffôn: (029)2087 2087

    E-bost:diogeludata@caerdydd.gov.uk

  • Polisi


    Am gopi llawn o Bolisi Recriwtio a Dethol y Cyngor e-bostiwch GwasanaethaupoblAD@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch (029) 2087 2222  

  • Dogfennau ategol perthnasol sydd ar gael ar ein Gwefan Swyddi

    Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

    Canllaw Cyflwyno Cais

    Recriwtio Cyn-droseddwyr

    Siarter Cyflogeion

     

    Nid yw’r wybodaeth yn y ddogfen hon yn berthnasol i swyddi mewn ysgolion, y mae proses ar wahân yn berthnasol iddynt.