Yng Nghyngor Caerdydd, rydym yn gwneud mwy nag ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth - rydym yn eu byw bob dydd. Rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal ar draws cyflogaeth a gwasanaethau, a adlewyrchir yn ein partneriaethau â sefydliadau blaenllaw fel y Living Wage Foundation, Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, y Siarter Hil yn y Gwaith, yr Achrediad Hyderus o ran Gofalwyr a Chyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Fel un o'r cyflogwyr sector cyhoeddus mwyaf, rydym yn frwd dros greu gweithlu sydd wir yn cynrychioli ac yn cefnogi'r cymunedau bywiog rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu, gan gynnwys: Yng Nghyngor Caerdydd, mae pob unigolyn yn bwysig. Nid ydym yn goddef gwahaniaethu—boed yn seiliedig ar oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd arall. Mae Caerdydd yn ddinas ddeinamig ac amlddiwylliannol, ac rydym yn dathlu amrywiaeth gyfoethog ein cyflogeion. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol a pharchus lle gall pawb ffynnu.
Rhwydweithiau Cyflogeion Rydym yn falch o'n Rhwydweithiau Cyflogeion, adnodd hanfodol sy'n grymuso'r Cyngor a'n gweithlu. Mae'r rhwydweithiau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb, sbarduno newid cadarnhaol, a meithrin amgylchedd cynhwysol. Mae ein rhwydweithiau yn grwpiau annibynnol hunan-drefnedig dan arweiniad gwirfoddolwyr brwd sy'n dod â'u harbenigedd a'u profiad unigryw. Maent yn cefnogi nodau'r Cyngor i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu ac aflonyddu, a chryfhau perthnasau ar draws grwpiau amrywiol. Gyda phum rhwydwaith deinamig yn agored i'r holl gyflogeion - beth bynnag fo'u cefndir - mae lle i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Ein rhwydweithiau yw:
Rhwydwaith Gofalwyr Mae’r Rhwydwaith Gofalwyr yn darparu fforwm cefnogol i staff sy'n ofalwyr, gydag aelodau'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at bolisïau, gweithdrefnau a diwylliant y Cyngor

Rhwydwaith Anabledd Mae'r Rhwydwaith Anabledd yn cysylltu cyflogeion anabl mewn lleoliad anffuriol achefnogol ac mae'n ceisio grymuso cyflogeion trwy hyfforddiant ac addasiadau rhesymol ac ati. Mae hefyd yn amlygu'r modd y gall y Cyngor wneud newidiadau cadarnhaol.

Rhwydwaith Cyflogeion Amrywiol Ethnig (EDEN) Mae'r Rhwydwaith Cyflogeion Amrywiol Ethnig (EDEN) yma i gefnogi, ysbrydoli a hyrwyddo cyfleoedd i gydweithwyr Amrywiol Ethnig. Mae'r Cyngor am gynyddu amrywiaeth ei weithlu a'i werthoedd, gyda mewnbwn EDEN yn datblygu'r nod hwn.

Mae’r Rhwydwaith LHDTh+ yn cynnig y cyfle i gyflogeion Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol gwrdd a thrafod materion sy'n effeithio arnynt. Mae’n ceisio cael effaith cadarnhaol ar bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor a hyrwyddo lles y gymuned LHDT+. Stonewall Cymru

Rhwydwaith Menywod Mae’r Rhwydwaith Menywod yn cefnogi cynnydd menywod yn y Cyngor trwy gynnig cyfleoedd rhwydweithio, hyrwyddo cydraddoldeb menywod a cheisio codi proffil menywod yn y Cyngor, yn ogystal â threfnu cyfleoedd a digwyddiadau datblygu.

Yn ogystal, rydym yn cynnig Grŵp Cymorth Canser i Gyflogeion, a Chymuned Cyflogeion Niwrowahanol ac Grŵp Cymorth Cyn-filwyr a Milwyr Gefn.



Adleoli Yng Nghyngor Caerdydd, mae ein Polisi Adleoli yn sicrhau diogelwch swydd a chymorth i'n cyflogeion pan fydd angen hynny arnynt fwyaf. Mae'n berthnasol i'r holl staff parhaol a’r holl gyflogeion dros dro sydd â dros 4 blynedd o wasanaeth (ac eithrio staff mewn ysgolion). P'un a yw eich swydd yn cael ei dileu oherwydd newidiadau sefydliadol neu’n ymdrin â phroblemau iechyd, anableddau neu amgylchiadau eithriadol eraill, rydym yma i'ch helpu i drosglwyddo i rolau newydd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos â chyrff llywodraethu ysgolion i archwilio cyfleoedd adleoli i staff mewn ysgolion, gan sicrhau parhad a sefydlogrwydd ar draws ein gweithlu.
Y Siarter Hil yn y Gwaith Ers llofnodi’r Siarter Hil yn y Gwaith, mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu unigolion ethnig leiafrifol o ran recriwtio a dilyniant gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu cynhwysol ac amrywiol sydd wir yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Trwy atebolrwydd a gweithredoedd pendant, rydym yn creu gweithle lle mae pawb yn cael cyfle i ffynnu.
Aelodaeth Ymbarél â Chyflogwyr i Ofalwyr Mae Cyngor Caerdydd yn falch o gynnig aelodaeth ymbarél â Chyflogwyr i Ofalwyr, gan roi mynediad i'n rheolwyr a'n staff i gyfoeth o adnoddau am ddim i gefnogi lles cyflogeion. Mae'r aelodaeth hon yn grymuso ein tîm i gynorthwyo gofalwyr yn well yn ein gweithlu. Rydym hefyd wedi ymestyn y budd hwn i fusnesau bach a chanolig (gyda llai na 250 o gyflogeion) ledled Caerdydd, gan roi iddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i gefnogi eu cyflogeion sy'n ofalwyr. Mae'n ymwneud â chreu gweithle mwy cefnogol a chytbwys i bawb

Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Stonewall Cymru, yr elusen LHDTC+ flaenllaw yng Nghymru, i greu gweithle cwbl gynhwysol. Trwy ymgorffori amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar ein sefydliad, rydym yn sicrhau newid cadarnhaol o ran recriwtio, cadw, ymgysylltu a datblygu. Fel rhan o'r bartneriaeth hon, rydym yn cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall bob blwyddyn sy'n arddangos ein hymrwymiad i fod yn un o'r cyflogwyr gorau ar gyfer staff LHDTC+. Gyda'n gilydd, rydym yn creu gweithle lle gall pawb ffynnu

Cyflogwr Hyderus o ran Gofalwyr Mae Cyngor Caerdydd yn Gyflogwr Hyderus o ran Gofalwyr Medrus. Mae'r cynllun meincnodi hwn yn cynorthwyo cyflogwyr i greu gweithle cefnogol a chynhwysol ar gyfer staff sydd, neu a fydd yn dod, yn ofalwyr ac i fanteisio i'r eithaf ar y doniau y mae gofalwyr yn eu cynnig i'r gweithle. Cyflwynir y dystysgrif cyflawniad i gyflogwyr ledled y DU sydd wedi dangos eu bod wedi creu gweithle cynhwysol lle mae gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu parchu a'u cefnogi. Mae cyflogwyr Hyderus o ran Gofalwyr yn cydnabod pwysigrwydd cadw aelodau gwerthfawr o staff, lleihau absenoldeb a chostau recriwtio diangen a gwella gwydnwch, ymgysylltiad a chynhyrchiant staff.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i recriwtio a chefnogi pobl anabl. Ers trosglwyddo i'r cynllun Hyderus o ran Anabledd ym mis Rhagfyr 2016, rydym wedi bod wrthi'n creu cyfleoedd i unigolion anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor ffynnu. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyflawni eu potensial a dilyn eu dyheadau.
