Am Y Gwasanaeth
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig ymuno â’n tîm fel Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yng Ngwasanaeth Cyfieithu a Dehongli Cymru (GCDC) yn Nhŷ Willcox, Dunleavy Drive, Caerdydd. Mae’r Ganolfan Gyswllt 24/7 yn darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid er mwyn dod hyd i gyfieithwyr ar y pryd a'u harchebu ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae hefyd yn cynnig cyngor amhrisiadwy ar wasanaethau ieithyddol.
Os ydych yn frwd dros sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac mae gennych agwedd gadarnhaol, dyma gyfle gyrfaol i chi.
Am Y Swydd
Mae angen Cynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid i ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Dehongli Cymru (GCDC) yn Nhŷ Willcox, Dunleavy Drive, Caerdydd. Oherwydd pandemig COVID 19, mae'r holl staff yn gweithio'n hybrid ar hyn o bryd.
Bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo a chynnig cyngor i amrywiaeth eang o gwsmeriaid ac aelodau o’r tîm a bydd yn gweithio gyda goruchwylwyr i sicrhau bod y rhan fwyaf o ymholiadau cwsmeriaid yn cael eu datrys ar y cyswllt cyntaf gan gynnig y gofal gorau i gwsmeriaid.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn debygol o weithio’n dda mewn tîm, yn gwerthfawrogi’r cyfle i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, ac yn meddu ar y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cynhyrchiol gyda phob gwasanaeth i sicrhau’r lefel uchaf o ran boddhad cwsmeriaid.
Mae’r Ganolfan Gyswllt yn gweithredu trwy’r dydd, bob dydd ac mae patrwm shifftiau priodol ar waith. Fodd bynnag, gallai’r oriau gwaith hyn newid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae manylion llawn y swydd i’w gweld yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Adam Howls, Rheolwr GCDC drwy ahowls@caerdydd.gov.uk
Atodiadau