Manteision

  • Cyfraniadau Pensiwn Helaeth 


    Mae’r Cyngor yn cynnig y cyfle i chi fanteision ar gynlluniau pensiwn helaeth. Yn dibynnu ar eich swydd, cewch eich cofrestru i un o ddau gynllun pensiwn:



    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol


    neu’r

     

    Cynllun Pensiwn Athrawon

     

    Caiff pob cyflogai â chontract o dri mis neu fwy eu cofrestru ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Os ydych yn athro, cewch eich cofrestru'n awtomatig i'r cynllun Pensiwn Athrawon o'r diwrnod cyflogaeth cyntaf.

     

    Fel eich Cyflogwr, byddwn yn talu cyfraniad helaeth i’r cynllun, yn ychwanegol i’r cyfraniadau y byddwch chi’n eu talu.  Os byddwch yn cyfrannu at y cynlluniau pensiwn, byddwch hefyd yn talu ychydig llai o dreth bob mis.

     

    Gallwch optio allan o’r cynllun pensiwn os dymunwch.

     

    Bydd eich pensiwn terfynol yn seiliedig ar eich tâl a pha mor hir rydych wedi bod ar y cynllun.  Nid yw’n seiliedig ar gyflwr y marchnadoedd ariannol pan fyddwch yn ymddeol.  Byddwch yn derbyn cyfriflenni pensiwn blynyddol i chi gael gweld sut mae eich pensiwnyn cynyddu.

     

    Gallwch hefyd gynyddu eich pensiwn drwy dalu mwy o gyfraniadau, a chewch ostyngiad o ran treth drwy wneud hynny.  


    Gall aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gymryd rhan yn ein Cynllun Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol Rhannu Cost a weinyddir gan ein partneriaid AVC Wise.  Mae'r cynllun hwn yn galluogi gweithwyr i wneud arbedion ymddeol cost effeithlon ochr yn ochr â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

  • Yswiriant Bywyd


    Mae’r cynlluniau pensiwn a nodir uchod yn cynnwys yswiriant bywyd.  Gallai eich gŵr/gwraig neu bartner sifil, neu berson arall a enwebir fod yn gymwys i dderbyn budd-dal marw yn y swydd sef cyfandaliad a phensiwn, cyfrifir y swm gan weinyddwyr y cynllun pensiwn perthnasol. 

  • Profion MOT â gostyngiad


    Mae cyflogeion yn gallu manteisio ar brofion MOT â gostyngiadau ar gyfer eu cerbydau preifat yn ein cyfleusterau Trafnidiaeth Canolog.  

  • Cyfleusterau Hamdden â Gostyngiad

     

    Gall cyflogeion fanteisio ar aelodaeth â gostyngiad ym mhob Canolfan Hamdden Better Caerdydd yn ogystal â CF11 - Canolfan Hamdden Channel View. 

  • Teithio â Gostyngiad


    Mae cyflogeion yn gallu manteisio ar ostyngiad ar gyfer tocynnau Bws Caerdydd blynyddol a thocynnau trên blynyddol 

  • Cynllun Gostyngiad i Gyflogeion - FyManteision


    Mae'r Cyngor yn gweithredu llwyfan buddion cyflogeion gyda'n partneriaid Edenred.  Mae FyManteision yn dod â holl fuddion Cyngor Caerdydd ynghyd, gan gynnig ated un stop ar gyfer mynediad hawdd i ystod eang o fan teision, sydd ar gael trwy'r ap pwrpasol neu'r wefan.


    Mae'r rhain yn cynnwys arbedion ar hanfodioan bob dydd mewn cannoedd o fanwerthwyr y stryd fawr, gan gynnwys archfarchnadoedd, siopau'r stryd fawr, sinemâu, gwyliau teuluol, a mwy.  Mae ein cynllun beicio i'r gwaith, Undeb Credyd, Teithio Gostyngol a'r Rhaglen Cymorth Cyflogeion Vivup i gyg ar gael trwy'r platfform buddion.

  • Gwyliau Blynyddol

     

    Mae’r Cyngor yn cynnig hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd.  Mae cyflogeion rhan amser h.y. y rheiny sydd wedi’u contractio i weithio llai na nifer yr oriau yn yr wythnos waith llawn amser yn gymwys i’r pro rata i’r hawliad llawn amser. I staff â chontract ffracsiynol (e.e. yn ystod y tymor) bydd cyfanswm yr wythnosau dan gontract y flwyddyn yn cynnwys yr hawliad gwyliau pro rata.

     

    Yn ôl yr amodau a thelerau cenedlaethol i athrawon mae athrawon llawn amser yn gweithio195 diwrnod y flwyddyn. 

  • Prynu Gwyliau Blynyddol 


    Os hoffech gymryd mwy o wyliau blynyddol, mae cyflogeion (ac eithrio staff ysgol) yn gallu prynu uchafswm o 10 diwrnod (pro rata ar gyfer staff rhan amser) o wyliau blynyddol y flwyddyn.  Caiff didyniadau o dâl ar gyfer gwyliau ychwanegol eu gwneud fel rhandaliadau cyfartal, wedi’u gwasgaru dros y misoedd sydd ar ôl yn ystod y flwyddyn ariannol yr ydych yn gwneud cais am wyliau.  

  • Absenoldeb Salwch


    Mae’r Cyngor yn cynnig tâl a chyflwr helaeth yn ystod absenoldeb salwch yn gysylltiedig ag amodau a thelerau cenedlaethol. 

  • Gwyliau Sabathol


    Mae gan y Cyngor Bolisi Gwyliau Sabathol sy’n galluogi cyflogeion i wneud cais am gyfnod estynedig (3 mis i 2 flynedd) o wyliau di-dâl. Mae hyn yn ein helpu i gadw cyflogeion sydd angen cyfnod estynedig o wyliau a allai fel arall fod angen terfynu eu cyflogaeth. Mae’r system hon er budd y cyflogai ac yn ei alluogi i gadw eu statws cyflogaeth cyfredol wrth gymryd y seibiant ac mae’n ei alluogi i ddychwelyd ar yr un amodau a thelerau. 

     

    Mewn ysgolion, ystyrir ceisiadau ar gyfer Gwyliau Sabathol gan y corff llywodraethu perthnasol. 

  • Cynllun Lwfans Teithio


    Pan fo angen cerbyd at ddibenion busnes, mae’r Cyngor yn gweithredu Cynllun Lwfans Car; caiff cyflogeion eu talu ar y gyfradd y cytunir arni gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.   Mae disgwyl i chi allu darparu neu fod â mynediad at gerbyd gyda chyfnod rhybudd rhesymol a chael defnydd busnes ar eich yswiriant car.  

  • Caffi 


    Mae gan Gyngor Caerdydd ei gaffis ei hun yn ei brif adeiladau, sy’n cynnig bwyd a diod am bris rhesymol ac amgylchedd cyffyrddus a chymdeithasol. 

  • Manteision Ychwanegol


    Gall cyflogeion gofrestru i lyfrgelloedd am ddim a manteisio ar blatfformau digidol ac e-lyfrau.

     

    Gall cyflogeion hefyd ddefnyddio Undeb Credyd Caerdydd ar gyfer cynilion a benthyciadau.