Siartr Cyflogeion


Safonau Caerdydd

Bydd Cyflogeion yn:



1. Cymryd rhan yn agendâu’r Cyngor o ran cynnwys  cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg

 

2. Cymryd rhan weithredol yn y broses o ddatblygu a gweithredu ein dulliau o weithio yn y dyfodol

 

3. Gweithio’n hyblyg ac addasu sgiliau ac agweddau i ddiwallu anghenion y Cyngor sy’n newid ac yn datblygu

 

4. Cyfrannu barn a syniadau yn rhagweithiol, a chymryd rhan yn y broses o ddod o hyd iatebion

 

5. Nodi anghenion a chyfleoedd dysgu a datblygu personol

 

6. Croesawu newid, syniadau newydd a heriau

 

7. Cyfrannu’n weithredol at Adolygiadau Personol a chymryd cyfrifoldeb personol am gyflawni pethau

 

8. Deall gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r Cyngor a gweithio â’r nod o’u Cyflawni

 

9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd  sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau 

 

Bydd Rheolwyr yn:



1. Hybu amgylchedd sy’n annog cynnwys cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg

 

2. Sicrhau dialog ystyrlon ac adeiladol â chyflogeion, Undebau Llafur a Rhwydweithiau Cydraddoldeb o ran datblygu a gweithredu ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol

 

3. Ystyried effaith hirdymor newidiadau i wasanaethau a’u heffaith ym mhob rhan o’r    Cyngor ac ar y gweithlu, gan gynnwys nodi gofynion o ran sgiliau

 

4. Sicrhau Cyfathrebu Ac Ymgysylltu Amserol ddwy ffordd, gan annog cyflogeion i fynegi eu barn e.e. cyfarfodydd tîm, cyfarfodydd un-i-un, sesiynau briffio ac ati

 

5. Rhoi Arweiniad A Mynediad I Gyfleoedd Dysgu  a datblygu a dargedwyd

 

6. Annog a chynorthwyo diwylliant o wella parhaus yn Weithredol

 

7. Dangos Ymrwymiad I Reoli Perfformiad, Nodi a chydnabod perfformiad da ac ymdrin yn deg â pherfformiad gwael

 

8. Rhoi Arweiniad Clir A Gweladwy Yn Unol  gwerthoedd ac ymddygiadau’r Cyngor

 

9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau

Bydd Uwch Reolwyr yn:


 

1. Creu amgylchedd sy’n cynorthwyo cynnwys cyflogeion, iechyd a llesiant a gweithio hyblyg

 

2. Sicrhau Bod Gan Gyflogeion, Undebau Llafur a Rhwydweithiau Cydraddoldeb rôl allweddol o ran datblygu a gweithredu ein ffyrdd o weithio yn y dyfodol

 

3. Sicrhau bod gan y Cyngor y bobl briodol sy’n meddu ar y sgiliau priodol yn y mannau priodol ar yr adeg briodol ac ar gost briodol

 

4. Sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu amserol a dwy ffordd â chyflogeion

 

5. Llunio Cynlluniau Datblygu Cyfarwyddiaeth yn seiliedig ar ganlyniadau’r broses AP sy’n mynd i’r afael â gofynion sgiliau’r dyfodol

 

6. Sicrhau diwylliant o welliant parhaus

 

7. Dangos ymrwymiad i reoli perfformiad a sicrhau bod Rheolwyr yn meddu ar y sgiliau i reoli perfformiad Cyflogeion

 

8. Rhoi arweiniad clir a gweladwy yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau’r Cyngor

 

9. Sicrhau y darperir gwasanaethau mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein Gwerthoedd a’n Hymddygiadau