Cefnogi Gwerthoedd y Cyngor
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Sicrhau ein bod yn deall pwy yw ein cwsmeriaid Bod yn gwrtais, yn gymwynasgar ac yn ystyriol a chymryd amser i wrando ar gwsmeriaid Gweithio gyda chydweithwyr i helpu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid | Ceisio deall anghenion ein cwsmeriaid Gofyn am adborth gan gwsmeriaid Defnyddio adborth i lywio ein gweithrediadau, ein blaenoriaethau a’n hargymhellion | Annog a chefnogi eraill i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych Ymgynghori ac ymgysylltu â grwpiau cymunedol a chwsmeriaid i nodi anghenion cwsmeriaid Datblygu ffyrdd o weithio, prosesau a strwythurau o ran gwelliannau parhaus i wasanaeth cwsmeriaid | Sicrhau bod barn cwsmeriaid yn cael ei hystyried yn llawn wrth gynllunio gwasanaethau Hyrwyddo a sicrhau trefniadau cydweithio rhwng gwasanaethau i wella gofal cwsmeriaid Herio eraill ym mhob rhan o’r sefydliad i wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau | Dadansoddi gwasanaeth o ‘safbwynt y cwsmer’ er mwyn sicrhau gwasanaeth amserol a hyblyg o ansawdd uchel Deall ac arwain eraill tuag at ymyrraeth gynnar, camau atal a lleihau’r galw a achosir drwy fethiant gwasanaeth Rhoi’r cwsmer wrth wraidd gwaith trawsbortffolio a phartneriaethau allanol: ceisio sicrhau y darperir gwasanaethau diffwdan, effeithlon a hygyrch Defnyddio dulliau trylwyr i brofi, adolygu a gwella profiad cwsmeriaid |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud ag ysgogiad, brwdfrydedd a chymhelliant personol i gyflawni a rhagori ar dargedau, fel ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud, a chyflawni hynny.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau i safon uchel a’u cyflawni Cyfrannu at sicrhau ffyrdd effeithlon o weithio Monitro a gwirio eich cynnydd eich hun yn erbyn gofynion | Sicrhau bod eich allbynnau eich hun ac eraill, lle y bo’n briodol, yn bodloni gofynion Nodi a chyfleu blaenoriaethau i bobl berthnasol Nodi lle mae’r adnoddau a’r sgiliau cywir ar gael | Sefydlu ffyrdd o fesur a meincnodi perfformiad Ymrwymo digon o adnoddau ac amser i gyflawni a gwella canlyniadau Diffinio a chyfleu ffactorau llwyddiant hanfodol i ddarparu gwasanaeth | Gwneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethau ar sail costau, buddion a risgiau a gyfrifir. Cefnogi ac ysgogi mentrau gwella perfformiad newydd Canfod, nodi a chymryd camau i fynd i’r afael â rhwystrau sefydliadol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell Adnabod a chydnabod perfformiad pobl eraill | Sicrhau bod perfformiad yn canolbwyntio ar wella canlyniadau’n barhaus ar gyfer cwsmeriaid a’r rhanbarth dinesig yn ei gyfanrwydd
Ymgysylltu â phartneriaid mewnol a/neu allanol ar lefel strategol er mwyn sicrhau bod perfformiad yn cael ei optimeiddio Cymryd camau angenrheidiol a gwneud dewisiadau caled er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cyflawni. Nodi a datrys rhwystrau systemig neu strwythurol i berfformiad. Meithrin diwylliant o gyflawni ac ymrwymiad a rennir i ragori ar dargedau. |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â bod yn gyson â’n gwerthoedd ein hunain a rhai’r cyngor, a bwrw ati i gefnogi newid a’i gyflawni.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Bod yn gyson ac yn deg wrth ymdrin ag eraill Unioni gwallau a cheisio canllawiau a chymorth priodol i’w hunioni Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol ag eraill | Parhau i gyflawni yn wyneb amgylchiadau anodd, ansicrwydd, anhawster neu newid. Cefnogi ac annog eraill i ddelio ag ansicrwydd, anhawster, neu newid Annog eraill i fod yn deg, agored a gonest | Herio arferion sefydledig pan nad ydynt yn gyson â thegwch nac yn agored. Siarad allan hyd yn oed pan fo’n peryglu perthynas werthfawr neu gadarn Ceisio unioni sefyllfaoedd anodd | Herio unigolion pwerus i ymddwyn mewn ffordd sy’n modelu gwerthoedd y sefydliad Hyrwyddo ac ysgogi’n rhagweithiol ymrwymiad sefydliadol i wasanaethau cyhoeddus Sicrhau bod unrhyw wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu ym mhob rhan o’rsefydliad Sicrhau bod arferion sefydliadol yn dryloyw | Fel arweinydd gweladwy, modelu a hyrwyddo gwerthoedd y cyngor yn yr holl weithgareddau a’r rhyngweithiadau
Cynnal y safonau uchaf o onestrwydd, hygrededd a pharch yn ystod cyfnodau o bwysau ac anawsterau sylweddol
Rhoi arweiniad sy’n seiliedig ar werthoedd er mwyn datblygu a chynnal a chadw’r rhanbarth dinesig a threfniadau partneriaeth
|
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â dangos dealltwriaeth o bobl eraill a gwerthfawrogi eu cyfraniad a’u safbwynt, hyd yn oed os yw’n wahanol i’ch un chi.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Gofyn am farn a theimladau eraill, a gwrando arnynt a’u cydnabod Cydnabod ac ystyried barn a syniadau pobl eraill Myfyrio ar ei ddealltwriaeth ei hun o deimladau pobl eraill | Cwestiynu eraill i ddeall eu barn a’i hystyried Ceisio deall y rhesymau dros ymddygiad a barn eraill Annog eraill i ystyried effaith eu gweithredoedd | Llunio’r amgylchedd i sicrhau bod eraill yn teimlo’n gadarnhaol a bod cyn lleied o wrthdaro â phosibl Newid pethau pan fo ymddygiad pobl eraill yn achosi tarfu Chwilio am gyfleoedd ac achub arnynt i greu a chefnogi fforymau lle gall pobl fynegi eu barn a’u pryderon | Asesu cryfderau a meysydd datblygu pobl eraill, gan alinio eu cryfderau i’r galw amdanynt a’r ceisiadau a wneir iddynt Ceisio deall gwraidd emosiynau negyddol o fewn y sefydliad a’r tu allan iddo Nodi a gweithredu er mwyn ceisio rhagweld sefyllfaoedd lle bydd emosiynau cryfion ar waith. | Meithrin cydberthnasau cadarnhaol ag eraill dan amgylchiadau heriol a chymhleth Deall ffactorau gwleidyddol, ariannol, enw da a ffactorau eraill sy’n dylanwadu ar ymddygiad uwch aelodau o staff ac ymateb iddynt Cydnabod a chymryd camau i ddatrys rhesymau diwylliannol neu systemig dros wrthdaro, camddealltwriaeth neu ddiffyg cydweithredu Modelu ymddygiad sy’n cydweithredu, cefnogi ac yn parchu eraill yn gyson |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â nodi a meithrin talent er mwyn sicrhau bod gennym y gallu sydd ei angen yn y dyfodol.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
| Cefnogi eraill i nodi eu hanghenion datblygiadol a chanfod ffyrdd o’u diwallu Cefnogi eraill i feithrin dealltwriaeth a/neu sgiliau Mentora eraill a rhannu gwybodaeth i wella perfformiad | Cefnogi eraill i feithrin y sgiliau sydd eu hangen yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor Rhoi adborth cadarnhaol ac adeiladol Chwilio am gyfleoedd i hyfforddi a mentora eraill ac achub ar y cyfleoedd hynny | Hyrwyddo ac annog datblygiad staff ar draws y sefydliad Ceisio sicrhau cronfa adnoddau i fodloni gofynion o ran talent yn y tymor hwy Datblygu eraill fel y gallant ymgymryd â rolau arweinyddiaeth | Rhagweld anghenion sefydliadol sy’n newid a a chymryd camau i sicrhau bod gan bobl yr adnoddau sydd eu hangen i’w diwallu Cyflawni rôl weledol a rhagweithiol er mwyn datblygu sgiliau arwain a rheoli ar draws y sefydliad Deall a meithrin y sgiliau a’r ffyrdd o ymddwyn sydd eu hangen er mwyn manteisio i’r eithaf ar drefniadau partneriaeth eraill |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â chymryd cyfrifoldeb am newid, annog blaengaredd a sicrhau bod amcanion y Cyngor yn wir ac yn berthnasol i eraill.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
| Hyrwyddo a bod yn gadarnhaol am newid Chwilio am gyfleoedd i gyfrannu at yr agenda newid i’ch hun ac eraill Helpu eraill i ddeall y rhesymau dros y newid a’r broses | Gosod a chyfleu gweledigaeth a rhesymeg dros newid Chwilio am ffyrdd o gefnogi a chyfrannu at newid llwyddiannus Galluogi a chefnogi cydweithwyr a rhanddeiliaid i ymdrin yn effeithiol â newid | Symleiddio neges gymhleth neu ddryslyd i roi gweledigaeth glir y gall eraill gredu ynddi a’i gweithredu Yn gallu cyflawni gwaith dilynol ar newid i sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori’n llawn yn y sefydliad, bod y buddion yn cael eu gwireddu a bod gwersi yn cael eu dysgu i newid yn y dyfodol. Creu a hyrwyddo diwylliant ac amgylchedd lle caiff newid ei reoli mewn ffordd effeithiol a sensitif, i wella’r tebygolrwydd o gefnogaeth a llwyddo | Creu gweledigaeth gydlynol, gan gysoni ac integreiddio llawer o fentrau a rhaglenni newid gwahanol Profi a gwerthuso effaith hirdymor a strategol o raglenni newid Sicrhau bod strwythurau ac adnoddau ar waith er mwyn arwain a rheoli rhaglenni newid mewn ffordd effeithiol Cefnogi newid a diogelu cefnogaeth gan uwch chwaraewyr yn fewnol ac yn allanol Dangos ymroddiad gwydnwch ac ystwythder yn gyson yn ystod cyfnodau heriol o newid |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â’r gallu i edrych i’r dyfodol, rhagweld digwyddiadau, gweld cyfleoedd a chymryd camau nawr i lywio’r dyfodol.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Chwilio am gyfleoedd i wella ac achub arnynt Bod yn hyblyg ac yn agored i newidiadau Cydweithio pan fydd newid yn effeithio arnoch | Defnyddio gwybodaeth a phrofiad i gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella Delio â'r ‘annisgwyl’ ac addasu’n barod i newid. Nodi a gweithredu i atal problemau posibl | Annog, hyrwyddo a chefnogi syniadau newydd Annog ac ysgogi eich hun ac eraill yn gyson i wella dulliau a ffyrdd o weithio Nodi a gweithredu dulliau newydd o wella | Chwilio am gyfleoedd hirdymor a fydd yn creu newidiadau cadarnhaol a chymryd camau i’w gwireddu Nodi ffyrdd newydd a beiddgar o feddwl a syniadau pendant i ymateb i gyfleoedd sydd ar y gweill Defnyddio data mewnol ac allanol a thueddiadau i ychwanegu gwerth i gwsmeriaid a’r cyngor Pennu cyfeiriad clir o ran sut y gall y sefydliad wella | Cydnabod yr achosion hynny pan mai dim ond modelau darparu radical fydd yn sicrhau’r canlyniadau dymunol Bod yn greadigol a meddwl heb ffiniau: herio safbwyntiau cul ac amharodrwydd i newid Cymryd camau cyflym i droi syniadau cychwynnol yn ganlyniadau gwirioneddol pan fo gweithredu ar hast yn hanfodol Nodi'r achosion hynny pan na fydd ‘syniadau da’ yn gyson â’r darlun mawr neu’r bwriad strategol |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â deall strwythurau ffurfiol ac anffurfiol, gwneud penderfyniadau, hinsawdd a diwylliant, a gwleidyddiaeth sefydliadol, sy’n llunio’r ffordd y mae’r cyngor yngweithio.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
| | Nodi a herio cyfyngiadau sefydliadol lle y bo’n berthnasol Nodi ffynonellau dylanwad ffurfiol ac anffurfiol a defnyddio gwybodaeth i feithrin perthnasau â gweithwyr sy’n gwneud penderfyniadau/gweithwyr dylanwadol allweddol Cydnabod y rhesymau dros ymddygiad sefydliadol parhaus | Cydnabod ac ymateb i rymoedd mewnol ac allanol sy’n effeithio ar y sefydliad Nodi tueddiadau a newidiadau – yn fewnol ac yn allanol –a fydd yn effeithio ar y sefydliad yn y dyfodol. Ffurfio a chynnal perthnasau â sefydliadau, cyrff ac unigolion rhanbarthol a chenedlaethol allweddol a gwella sefyllfa’r cyngor | Nodi a manteisio i’r eithaf ar brosesau gwneud penderfyniadau mewn trefniadau rhanbarth dinesig a threfniadau partneriaeth eraill Dylanwadu o fewn amrywiaeth o drefniadau gweithio gwahanol e.e. rhanbarth dinesig, partneriaethau sector preifat, ac ati |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â phennu gwerth, datblygu a chynnal rhwydweithiau a chydberthnasau i gyflawni amcanion.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Cyfranogi’n weithredol fel aelod o dîm Rhannu gwybodaeth a syniadau yn agored â’ch tîm eich hun Cefnogi eraill i gwblhau tasgau | Nodi a meithrin cydberthnasau gwaith effeithiol a chydweithredol Rhannu gwybodaeth a syniadau yn agored â phob tîm perthnasol Cydnabod blaenoriaethau gwahanol i randdeiliaid a’u hystyried | Cynnal rhwydwaith o gydweithwyr mewnol ac allanol i alluogi gwasanaethau i gael eu gwella a’u darparu Hyrwyddo a ffurfio timau traws-swyddogaethol i gyflawni canlyniadau a gwelliant Cydweithio i ennill cefnogaeth a dod i gytundeb wrth anelu at nod cyffredin | Hyrwyddo ac arwain gwaith partneriaeth a chorfforaethol, ym mhob rhan o’r sefydliad a thu hwnt Defnyddio’ch holl gysylltiadau i ysgogi newid helaeth, pellgyrhaeddol Rheoli cydberthnasau cymhleth, yn fewnol ac yn allanol, i sefydlu nodau cyffredin a datblygu cyd-ymrwymiad at ganlyniadau cadarnhaol | Meithrin a datblygu rhwydwaith cymhleth yn barhaus o gydberthnasau ar lefel uwch er mwyn optimeiddio cynhyrchiant y rhanbarth dinesig Canolbwyntio ar ganlyniadau dymunol a diffinio’r math o drefniadau partneriaeth a fydd yn eu cyflawni orau Sicrhau bod y partneriaethau strategol cywir ar waith er mwyn optimeiddio’r defnydd o adnoddau’r sector cyhoeddus mewn hinsawdd ariannol galed Datgloi’r rhwystrau strategol allweddol i bartneriaeth a chydweithredu Manteisio ar y defnydd o bartneriaethau masnachol a mentrau, tra’n ystyried y ffactorau risg yn effeithiol |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â hwyluso pob math o wybodaeth a negeseuon i gynulleidfaoedd gwahanol yn y ffordd fwyaf effeithiol
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Cyfathrebu’n glir ac effeithiol Gwrando ar eraill Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth ag eraill. | Cymryd gwybodaeth dechnegol neu gymhleth a’i throi’n ohebiaeth lafar neu ysgrifenedig glir Llunio deunydd cyfathrebu penodol sydd wedi’i deilwra ac sy’n hawdd ei ddeall i’r gynulleidfa darged. Creu cyfleoedd i gasglu a rhannu adborth a gwybodaeth ddefnyddiol | Dewis y dulliau a’r sianeli cyfathrebu mwyaf priodol Cyfleu negeseuon heriol a dadleuol yn agored Ymateb yn agored i heriau a mynd i’r afael â phryderon | Cyfathrebu’n briodol mewn ymateb i argyfwng neu ddigwyddiad annisgwyl pan y gall yr amser paratoi fod yn gyfyngedig. Gallu cyfleu gwybodaeth gymhleth, strategol a chysyniadol iawn i eraill mewn ffordd ystyrlon a pherthnasol Creu amgylchedd a diwylliant sy’n annog cyfathrebu agored, gonest, amserol ac effeithiol | Cyfathrebu a dylanwadu’n effeithiol mewn amgylcheddau mewnol ac allanol hanfodol Dehongli’n gywir yr hyn sydd wedi/heb ei ddweud mewn trafodaethau a negodiadau ar lefel uwch: archwilio’r negeseuon cynnil pwysig hanfodol Rhoi’r Cyngor mewn safle clir a chredadwy wrth amlinellu ei safbwynt Cyfleu’r negeseuon cywir yn y mannau cywir er mwyn diogelu’r canlyniadau dymunol |
Mae’r cymhwysedd hwn yn ymwneud â chasglu gwybodaeth allweddol, cydnabod risgiau, gwerthuso, gwneud penderfyniadau i gefnogi arfer gorau.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Gwneud penderfyniadau rhesymegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth Meddu ar ddull rhesymegol o ddatrys problemau Ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth allweddol yn cael ei chasglu | Ystyried amrywiaeth o opsiynau er mwyn datrys problemau yn effeithiol a gwneud penderfyniadau rhesymol. Rhagweld yr effaith y bydd penderfyniadau yn ei chael ac, wrth ystyried hyn, cyfleu a gweithredu datrysiadau Defnyddio dulliau priodol o gasglu’r holl wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniad a/neu ddatrys problem | Ymchwilio i opsiynau a’u gwerthuso wrth wneud penderfyniadau tra’n rhagweld ac yn asesu risgiau byrdymor a thymor canolig Sicrhau bod atebion i broblemau cymhleth yn realistig ac ymarferol Cyflawni gwaith dilynol ar atebion / penderfyniadau, nes eu bod wedi cau neu eu datrys, i sicrhau bod eraill yn eu deall a’u gweithredu | Rhagweld ac asesu risgiau hirdymor a strategol, mynd i’r afael â nhw a helpu eraill i’w hadnabod a mynd i’r afael â nhw Creu amgylchedd a diwylliant lle mae pobl yn gwneud penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb drostynt Cymryd camau priodol i gyfathrebu a delio ag effaith penderfyniadau ar gydweithwyr, cwsmeriaid a/neu bartneriaid | Edrych y tu hwnt i’r materion sy’n wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd a’u rhoi yng nghyd-destun cyfeiriad strategol y Cyngor Mae hyrwyddo a meithrin proses gydgysylltiedig o wneud penderfyniadau yn sicrhau bod pobl allweddol yn cyfathrebu ac yn alinio eu hymdrechion hanfodol Ymgymryd â gwaith dadansoddi strategol cymhleth a chyflwyno’r opsiynau i uwch wleidyddion mewn ffordd gywir a chytbwys Goruchwylio a rheoli goblygiadau tymor hwy a darpar ganlyniadau anfwriadol penderfyniadau strategol allweddol |
Dileu gwahaniaethu a rhwystrau o ran mynediad teg i gyflogaeth a gwasanaethau’r Cyngor ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth/ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw), hil, crefydd neu gredo, rhyw, tueddfryd rhywiol neu’r iaith Gymraeg. Cydnabod, gwerthfawrogi a dathlu gwahaniaeth, a bod â’r gallu i gydweithio i greu cymdeithas fywiog, amrywiol, cyfiawn, cydlynol a gweddus lle y gall pawb fwynhau eu hawliau dynol a gwireddu eu potensial.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
Dilyn polisïau, gweithdrefnau a deddfwriaeth ar gydraddoldeb Trin eraill ag urddas a pharch Cydnabod gwerth gwahaniaethau rhwng pobl | Hyrwyddo pwysigrwydd cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau Cydnabod a chyfleu bod gan bob cyflogai rôl i’w chyflawni wrth wneud y Cyngor yn Gyflogwr Dewis sy’n darparu gwasanaethau i gymunedau amrywiol yn llwyddiannus | Nodi a sicrhau arfer da o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a chwalu rhwystrau Sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth bob amser yn cael eu hystyried wrth gyflwyno gweithgaredd, polisi neu benderfyniad arall Cefnogi eraill i ystyried a chyflawni arfer da | Hyrwyddo a sicrhau diwylliant lle caiff cydraddoldeb ac amrywiaeth eu gwerthfawrogi drwy ddarparu gwasanaethau a chyflogaeth yn deg Eirioli a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y sefydliad Ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, a’u cynnwys yn y gwaith o lunio polisïau’r Cyngor | Herio a phrofi gwasanaeth er mwyn sicrhau bod ymrwymiadau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu gweithredu’n gadarn Rhoi systemau ar waith a’u defnyddio er mwyn gwerthuso i ba raddau y mae gwasanaethau’n sicrhau canlyniadau dymunol ym mywydau defnyddwyr gwasanaeth: cymryd camau i fynd i’r afael ag agweddau ar anghydraddoldeb Herio a gwella diwylliant a phrosesau’r sefydliad; sicrhau bod potensial pob cyflogai’n cael ei nodi, ei feithrin a’i wireddu’n llawn Cydweithio â sefydliadau partner er mwyn sicrhau, yn gydlynol, ganlyniadau strategol gwell o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. sicrhau canlyniadau dymunol ym mywydau defnyddwyr gwasanaeth: cymryd camau i fynd i’r afael ag agweddau ar anghydraddoldeb |
Arwain a chreu diwylliant lle y caiff adnoddau eu defnyddio’n effeithiol, eu rheoli’n effeithlon a’u defnyddio’n greadigol i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r ddinas a’r rhanbarth.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
| | | Rhoi lefel uwch o arweiniad a chyngor i reolwyr o ran defnyddio adnoddau’n effeithlon Bod yn gyfrifol am ddatblygu sgiliau ac agweddau sy’n hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau Annog diwylliant creadigol, lle y mae pobl yn chwilio am ffyrdd newydd neu wedi’u haddasu er mwyn sicrhau canlyniadau rhagorol yn fwy effeithlon Cymryd penderfyniadau anodd ynghylch gwasanaethau gan roi blaenoriaethau cwsmeriaid yn gyntaf | Rhoi cyfeiriad strategol i uwch gydweithwyr am le y dylid buddsoddi, dadfuddsoddi ac arbed: egluro cyd-destun y darlun mawr (yn unol â blaenoriaethau’r Cabinet) Dangos craffter masnachol; gan ddeall ffactorau ariannol a ffactorau eraill mentrau posibl Meithrin diwylliant o atebolrwydd lle y caiff adnoddau eu rheoli yn effeithlon ac yn ofalus ar draws yr holl wasanaethau Defnyddio partneriaethau rhanbarthol a phartneriaethau eraill er mwyn manteisio i’r eithaf ar adnoddau Annog a chefnogi ymdrechion i ddenu ffrydiau incwm newydd neu gynyddol |
Gweithio’n effeithiol yng nghyd-destun awdurdod a arweinir gan aelodau; deall blaenoriaethau gwleidyddol y rhanbarth dinesig a sicrhau safle fel ymgynghorydd diduedd y gall pobl ymddiried ynddo. Helpu gwleidyddion ar lefel uwch i ‘brofi’ a gwerthfawrogi’n llawn y ffyrdd gorau o weithredu blaenoriaethau ac ymrwymiadau cytunedig.
Lefel 1 – Ein nodau | Lefel 2 | Lefel 3 | Lefel 4 | Lefel 5 |
| | | Deall prosesau gwneud penderfyniadau gwleidyddol allweddol ac ymgysylltu â hwy’n briodol Sicrhau bod ymatebion clir, cywir ac amserol yn cael eu llunio i ymholiadau aelodau Dirprwyo ar gyfer y Cyfarwyddwr perthnasol a rhoi arweiniad cadarn i uwch aelodau etholedig Sicrhau bod rheolwyr a staff yn ymgysylltu’n briodol ac yn effeithiol ag aelodau etholedig | Deall blaenoriaethau’r Cabinet a’u trosi’n gamau yn y sefydliad Cynnig cyngor clir a chywir i uwch wleidyddion, gan amlygu manteision, risgiau a goblygiadau dewisiadau strategol allweddol Bod yn ymwybodol o sensitifrwydd gwleidyddol, tra’n cadw gwrthrychedd anwleidyddol Hysbysu gwleidyddion mewn modd amserol a rhagweithiol, gan osgoi syrpreisys diangen Deall a gwneud synnwyr o agendâu gwleidyddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol |