Cyngor Caerdydd yw'r Cyngor mwyaf yng Nghymru.
Bob blwyddyn rydym yn darparu 700 o wahanol wasanaethau llywodraeth leol i dros 362,000 o drigolion, 8 miliwn o ymwelwyr, ac i fusnesau ar draws y ddinas.
Pa swyddi sydd yng Nghyngor Caerdydd?
Rydym yn dibynnu ar ein gweithlu talentog i'n helpu i gynllunio, dylunio a darparu ein gwasanaethau. Gan fod ein gwaith yn eang, mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Mae ein timau'n gweithio ar draws 150 o lwybrau gyrfa proffesiynol, technegol, masnach, rheoli, gwasanaeth cwsmeriaid a chymorth busnes gan gynnwys:
•Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol
•Addysg, Gwaith Ieuenctid a Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar
•Rheoli Prosiectau a Dadansoddi Busnes
•Datblygu Economaidd, Twristiaeth a Pharciau
•Dylunio, Marchnata, Cyfathrebu a’r Cyfryngau cymdeithasol
•Digidol, TGCh, Peirianneg Meddalwedd a Chaledwedd
•Gwasanaethau Oedolion Cymunedol Arbenigol, Tai, Budd-daliadau, a Chymorth digartrefedd.
•Cymorth Busnes a Gwasanaethau Cwsmeriaid
…. a llawer mwy
•Cyfrifeg, Rheoli Risg ac Yswiriant
•Adnoddau Dynol a’r Gyfraith
•Cynllunio'r Ddinas, Gwasanaethau Amgylcheddol, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth
•Pensaernïaeth, Cynllunio Trefol a Dylunio Graffig
•Peirianneg, Crefftau Traddodiadol, Garddwriaeth a Gyrru Cerbydau Nwyddau Trwm
•Polisi Cymdeithasol
•Gwasanaethau Democrataidd ac Etholiadol
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ymuno â'n gweithlu gan gynnwys creu llwybrau mynediad i brentisiaid, hyfforddeion a graddedigion.
•A oes gennych ddiddordeb mewn gwasanaeth cyhoeddus ac yn ein helpu i gefnogi cymunedau lleol?
•Ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad a'ch helpu ein timau i ymateb i heriau newydd?
Ydych? Yna mae gan Gyngor Caerdydd lawer i'w gynnig i chi.
Bydd gweithio i Gaerdydd yn rhoi i chi sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd i ddatblygu eich gyrfa.
Beth yw'r cyflog?
Bydd cyfraddau tâl ar gyfer unrhyw rôl â ni’n dibynnu ar y radd swydd a ddangosir ar yr hysbyseb swydd. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw, ac mae hyn yn golygu ein bod yn gwarantu y bydd gweithwyr yn cael o leiaf swm sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Gwirioneddol gan gynnwys yn ein rolau prentis a dan hyfforddiant. Mae hyn yn uwch na'r cyfraddau isafswm cyflog a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Am fwy o wybodaeth ar y Cyflog Byw neu i wirio'r gyfradd bresennol ewch i www.livingwage.org.uk
Os ydych chi'n berson ifanc sy'n byw yng Nghaerdydd, mae hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ymuno â ni!
Rydym am i fwy o bobl ifanc Caerdydd ymuno â'n gweithlu. Felly, yn ogystal â'n swyddi gwag cyffredinol sy'n agored i bob ymgeisydd, bob blwyddyn rydym yn hysbysebu ein Cyfleoedd Prentis Corfforaethol a Chynllun Dan Hyfforddiant er mwyn annog mwy o drigolion sy'n byw yn ein cymunedau lleol i ymgeisio. Gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, mae'r rolau hyn hefyd yn addas i'r rhai sydd heb brofiad gwaith blaenorol neu gymwysterau penodol. Nid oes terfyn oedran uchaf i wneud cais, ac mae rhai rolau hefyd yn agored i raddedigion sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae rolau'r cynllun yn amrywio bob blwyddyn ac yn cael eu hysbysebu ar ein Safle Gyrfaoedd o fis Hydref.
Ymunwch â ni!
P'un a ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu tu allan iddi, mae ein recriwtio 'swydd wag gyffredinol' yn rhoi'r ystod ehangaf o gyfleoedd i ymuno â ni, fel prentis, hyfforddai, myfyriwr graddedig neu ymgeisydd mwy profiadol. Felly, os ydych chi'n edrych i ymuno â sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ym mhrifddinas Cymru, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
I ddysgu mwy am beth rydyn ni'n ei wneud, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i'n gwefan yn www.caerdydd.gov.uk, a pheidiwch ag anghofio cofrestru am hysbysiadau swydd yn www.jobscardiffcouncil.co.uk
Swyddi gwag cyffredinol a sut i ymgeisio.
Rydym yn hysbysebu ein swyddi gwag cyffredinol parhaol a thymor sefydlog, gan gynnwys rolau Prentis, Hyfforddai a Graddedigion, ar ein gwefan gyrfaoedd www.jobscardiffcouncil.co.uk. Gan fod rolau a llwybrau gyrfa'n wahanol, felly hefyd yw’r gofynion mynediad, felly mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu ar wahân. Mae hyn yn golygu mai chi sy’n rheoli'r rolau gwnaethom eu hystyried ar eich cyfer, wrth i chi benderfynu pa rolau i wneud cais amdanynt yn seiliedig ar eich diddordeb neu nodau gyrfa. Nid oes cyfyngiad ar nifer y rolau swydd y gallwch wneud cais amdanynt, ond rhaid i chi wneud cais ar-lein.
Hysbysebion Swyddi
Bydd pob hysbyseb swydd yn rhoi crynodeb byr o'r rôl a gwaith y tîm, lleoliad y swydd, gradd a chyflog. Bydd hefyd yn cynnwys dolen at ddogfennau pwysig gan gynnwys y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person, sy'n rhestru'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiadau hanfodol a dymunol sydd eu hangen ar gyfer y rôl. I wella eich siawns o gael eich gwahodd i gyfweliad, rydych chi’n gorfod rhoi enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a restrir a chymaint o'r Meini Prawf Dymunol â phosibl.
Bydd yr enghreifftiau o sut rydych yn bodloni’r Meini Prawf yn adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein. Gallwch hefyd eu huwchlwytho i'ch cais fel dogfen ar wahân ond peidiwch ag uwchlwytho CV gan na allwn ystyried ceisiadau CV.
1. Rhestrwch bob un o'r meini prawf Hanfodol a Dymunol fel pennawd ochr ac ysgrifennwch eich esiampl oddi tano
2. Disgrifiwch y sefyllfa, tasg, yr hyn a wnaethoch a’r canlyniad wrth roi enghreifftiau.
Pa oedran allwch chi wneud cais i weithio yng Nghaerdydd?
Mae ein rolau'n agored i bob oed o 16 oed i fyny, ond o bryd i'w gilydd gallai rolau fod ag isafswm o 18 oed oherwydd y tasgau sy'n gysylltiedig â'r sefyllfa honno. Os yw cyfyngiad oedran yn berthnasol i rôl, bydd yn cael ei nodi ar yr hysbyseb swydd, disgrifiad swydd a manyleb person. Nid oes terfyn oedran uchaf i wneud cais.
Ceisiadau Dienw
Er mwyn sicrhau proses recriwtio deg a chyfartal, rydym yn gwneud ceisiadau’n ddienw. Mae hyn yn golygu, bob tro y byddwch yn gwneud cais ar-lein am swydd yng Nghaerdydd, mae eich enw a manylion adnabod personol eraill wedi'u cuddio. Bydd y rheolwr yn cyflwyno ceisiadau rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn ddienw, yn seiliedig ar ba mor agos y mae'r enghreifftiau, a’r wybodaeth arall a gyflwynwyd, yn cyfateb i'r Meini Prawf Hanfodol a Dymunol a ddangosir ar y Fanyleb Person. Gwahoddir y rhai sy’n paru orau â’r swydd i gyfweliad. Yna, bydd ein system ddigidol yn ddatgodio manylion cyswllt personol y rhai a wahoddir i gyfweliad yn awtomatig.
Mae hyn yn golygu na all y rheolwr weld eich enw na manylion personol eraill nes eich bod yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Mae hefyd yn golygu na all rheolwr sy’n recriwtio ar gyfer un rôl gael mynediad at unrhyw geisiadau eraill rydych chi'n eu gwneud ar gyfer rolau eraill mewn timau gwahanol.
Rydym yn eich annog i wneud cais am bob rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi a lle rydych yn teimlo eich bod yn bodloni'r holl Feini Prawf Hanfodol a chymaint o'r Meini Prawf Dymunol â phosibl.
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cais?
Ar ôl i chi ymgeisio, byddwch yn derbyn e-byst am gynnydd eich cais. O bryd i'w gilydd, gall eich darparwr e-bost osod y rhain yn eich ffolder Sbam. Os ydych chi'n aros i glywed am ganlyniad cais am swydd, rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch ffolder Spam yn rheolaidd.
Bydd ein system ddigidol yn rhyddhau eich cais dienw i'r rheolwr recriwtio y diwrnod ar ôl dyddiad cau hysbyseb swydd. Er bod rheolwyr yn awyddus i recriwtio, maen nhw hefyd yn gyfrifol am reoli timau gwasanaethau mawr, felly gallai gymryd wythnos neu ddwy iddyn nhw ystyried y ceisiadau a phenderfynu pa un sy’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Bydd e-bost yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr i roi gwybod iddynt ganlyniad eu cais, boed yn llwyddiannus ac yn cael gwahoddiad i gyfweliad, neu'n aflwyddiannus y tro hwn.
Os nad ydych yn llwyddiannus gydag un cais i Gaerdydd, peidiwch â digalonni rhag ymgeisio eto. Rydym yn eich annog i wneud cais am rolau eraill gyda ni lle gallwch ddangos pob Maen Prawf Hanfodol a chymaint o'r Meini Prawf Dymunol â phosibl. Os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, gallwch gael help i wneud cais am swyddi, gan gynnwys swyddi gyda ni, gan ein Tîm i Mewn i Waith yn www.intowork.org.uk
Hyfforddi a Datblygu Gweithwyr
Pan fyddwch yn ymuno â Chyngor Caerdydd mewn unrhyw swydd, bydd eich rheolwr yn cefnogi eich hyfforddiant a'ch datblygiad er mwyn i chi gael y wybodaeth a'r sgiliau i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol a chyrraedd eich potensial llawn.
Bydd gennych hefyd fynediad at ein cyrsiau Tîm Hyfforddi Achrededig SARh Academi Caerdydd, er mwyn eich cefnogi i ddatblygu fel swyddog llywodraeth leol yng Nghaerdydd.
Mae'r holl brentisiaid sy'n astudio am gymhwyster prentisiaeth yn y swydd, yn cyfateb i'w rôl. Bydd manylion hyn ar yr hysbyseb swyddi pan fyddwch chi'n ymgeisio.
Rydym yn annog pob gweithiwr cymwys, waeth beth yw'r math o rôl neu radd, i gael mynediad at ein cymwysterau prentisiaeth a ariennir i gefnogi eu datblygiad a'u dilyniant ar Lefel Prentisiaeth Sylfaen, Uwch neu Radd ar draws ystod eang o arbenigeddau sy'n gysylltiedig â'u rôl.
Mae prentisiaid, hyfforddeion a hyfforddeion graddedig hefyd yn cael mentor gwasanaeth i'w helpu i setlo yn y rôl.
Cyflawni dros Gaerdydd
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion; dan 25 oed, nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; o’n cymunedau lleol gan gynnwys yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a phobl o gymuned pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd; sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a/neu ieithoedd cymunedol eraill.
Mae Caerdydd yn ffynnu ar amrywiaeth. Rydym yn Hyrwyddwr Aur Stonewall ac yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae gennym ystod o Rwydweithiau Cydraddoldeb Gall gweithwyr ymuno â'r rhwydwaith Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, LHDT+, Anabledd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a Gofalwyr neu beidio.
Am ragor o resymau i ymuno â ni a rhestr o fudd-daliadau ewch i www.jobscardiffcouncil.co.uk neu sganiwch y cod QR uchod.