Tyfu Eich Gyrfa gydag Academi Caerdydd Yng Nghyngor Caerdydd, credwn mai ein pobl yw ein cryfder wyaf - ac mae cefnogi eich twf yn rhan o'n diwylliant. Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi yn Academi Caerdydd, ein darpariaeth Dysgu a Datblygu bwrpasol, sydd wedi'i dylunio i'ch helpu i ddatgloi eich potensial a ffynnu yn eich gyrfa. Wrth i chi ddechrau eich taith gyda ni, mae'r Academi yma i gefnogi eich dysgu a'ch datblygu. Rydyn ni'n cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu, yn bersonol yn Neuadd y Sir ac ar-lein trwy blatfform e-ddysgu hawdd ei ddefnyddio. P'un a ydych chi'n magu hyder yn eich rôl neu'n edrych i dyfu eich sgiliau, byddwch yn gweld cyrsiau ar arwwinyddiaeth, gwybodaeth dechnegol, a datblygiad personol i'ch helpu i lwyddo a ffynnu yn eich gyrfa.
Croeso Cynnes: Eich Taith Sefydlu Gall dechrau swydd newydd deimlo'n llethol ond yng Nghyngor Caerdydd, rydyn ni'n gwneud yn siwr eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi o'r diwrnod cyntaf. Mae ein proses sefydlu wedi'i theilwra yn eich croesawu i'ch tîm ac yn eich helpu i ddeall sut mae eich rôl yn cyfrannu at nodau ehangach y Cyngor. Byddwch yn cael mewnwelediad i'n gwerthoedd, ein diwylliant a'n gwasanaethau - fel y gallwch chi ddechrau gyda hyder.
Cefnogi'r Gymraeg Rydyn ni'n falch o'n hunaniaeth Gymraeg ac wedi ymrwymo i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ar draws ein sefydliad, P'un a ydych chi'n rhugl, yn ddysgwr, neu'n chwilfrydig, rydyn ni'n cynnig pecynnau hyfforddi hyblyg, wedi'u hariannu'n gorfforaethol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. Drwy rwydwaith cryf o hyrwyddwyr a chydlynwyr y Gymraeg, rydyn ni'n hyrwyddo cyfleoedd i staff ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd-gan ei gwneud yn rhan o wead bywyd yn y Cyngor. Rydyn ni'n annog pob aelod o staff i gofleidio a mwynhau'r iaith, waeth beth fo'uman cychwyn.
Ennill Cyflog Wrth Ddysgu: Prentisiaethau Nid yw prentisiaethau ar gyfer pobl sy'n gadael yr ysgol yn unig - maen nhw'n ffordd wych i bobl ar unrhyw gam o'u gyrfa ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau, a symud ymlaen yn eu rôl. Rydyn ni'n cynnig mynediad at raglenni prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn ar draws ystod eang o broffesiynau. Gyda chymorth gan ddarparwr hyfforddiant pwrpasol ac opsiynau dysgu hyblyg, byddwch chi'n emmill profiad gwerthfawr tra'n gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Hyfforddiant a Mentora A ydych chi'n chwilio am gymorth wedi'i bersonoli i dyfu eich sgiliau neu archwilio llwydbrau gyrfa newydd? Mae ein rhaglenni hyfforddiant a mentora yma i helpu. Rydyn ni'n cysylltu gweithwyr â chydweithwyr profiadol a all gynnig arweiniad, adborth ac anogaeth - fel y gallwch chi gyflawni eich potensial llawn tra'n cyfrannu'n ystyrlon at nodau'r Cyngor.
Cymwysterau a Datblygiad Proffesiynol Rydyn ni'n cefnogi hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ôl ynediad lle maent yn cyd-fynd â'ch rôl ac anghenion cynllunio ein gweithlu. Os yw eich swydd yn gofyn am gymhwyster ffurfiol neu astudiaeth bellach, byddwn ni'n gweithio gyda chi i archwilio opsiynau datblygu perthnasol. Lle mae'n gymwys, rydyn ni hefyd yn talu ffioedd cofrestru proffesiynol ar gyfeer gweithwyr sy'n gweithio mewn rolau rheoledig - fel athrawon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, a gweithwyr gofal.