Gan weithio yn y Tîm Cyllid a Chydymffurfiaeth Gwella Adeiladau, cyflawni prosesau gweinyddol i helpu i drwsio a gwella eiddo'r Cyngor. Cofnodi data'n gywir ar amrywiaeth o systemau i sicrhau cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch ar draws y stoc dai.
Ymdrin ag ymholiadau i Dîm Cyllid a Chydymffurfiaeth UGA.
Rhoi cymorth gweinyddol i'r Tîm Cynnal a Chadw a Gynllunnir, y Tîm Cydymffurfiaeth a'r Timau Rheoli Asedau.
Cyflawni dyletswyddau gweinyddol i sicrhau bod y wybodaeth a gedwir am waith yn eiddo'r cyngor yn gywir ac yn rhoi cofnod clir o'r holl weithgareddau a ddigwyddodd.
Cyfrannu at ddatblygiad busnes y gwasanaeth.
Cynorthwyo timau ehangach yn ôl yr angen i sicrhau parhad busnes.
Dysgu'r tasgau a gallu eu cyflawni i safon uchel.
Cael sgiliau cyfathrebu da gyda'r holl gwsmeriaid.
Bod yn hyblyg a gweithio'n dda gyda thîm.
Bod yn ddibynadwy.
Profiad o weithio gyda Microsoft e.e. Word, Excel ac ati.
Yn drefnus.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r cyflog hwn yn cynnwys tâl atodol y Cyflog Byw sy’n cynyddu’r cyfraddau tâl i £10.90 yr awr (pcg 2-3). Caiff y tâl atodol hwn ei adolygu ym mis Ebrill 2024 a phob mis Ebrill ar ôl hynny. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau