Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes.

Am Y Swydd

Wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert, Llys Corvette, Caerdydd, CF10 4NL, bydd y Cogydd Arweiniol yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y gweithgareddau busnes a gwasanaeth yn y cyfleuster arlwyo.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Y gallu i fod yn hyblyg ac addasu i fodloni anghenion y gwasanaeth.

Canolbwyntio ar gwsmeriaid, gan sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Gallu gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr fel rhan o dîm neu ar eich menter eich hun.

Yn agored i newid a ffyrdd gwahanol o weithio.

Yn gefnogol i’ch cydweithwyr, ac agwedd gadarnhaol at sicrhau gwasanaeth o’r radd flaenaf.

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd ran amser yw hon, am 22.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyflog a ddangosir, fodd bynnag, am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, felly caiff ei dalu ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir trwy ddefnyddio platfform ar-lein priodol.  Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Catherine Watkins (cawatkins@caerdydd.gov.uk)

 

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau