Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a deietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes.

Am Y Swydd

Wedi ei leoli yn Pentrebane Primary, Beechley Drive, Cardiff, CF5 3SG bydd y Cogydd Cynorthwyol yn gyfrifol am gynorthwyo Rheolwr y Gegin gyda phob agwedd ar y gweithgareddau busnes a gwasanaeth yn y cyfleuster arlwyo.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Y gallu i addasu i fodloni anghenion y gwasanaeth.

Canolbwyntio ar gwsmeriaid yn sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol

Gallu gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr fel rhan o dîm neu ar eich menter eich hun

Bod yn agored i newid a ffyrdd gwahanol o weithio

Bod yn gefnogol i’ch cydweithwyr gydag agwedd gadarnhaol at sicrhau gwasanaeth dosbarth cyntaf

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod.  Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Swydd ran-amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 20 awr yr wythnos, 4 awr y dydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 39 wythnos y flwyddyn yn ystod y tymor.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.      Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.     

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Fiona Davies 07854 083172

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau