Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn dynamig ymuno â Gwasanaethau Golygfeydd Stryd i gyflenwi gweithrediadau rheng flaen, gan ddarparu safon uchel o wasanaeth i breswylwyr Caerdydd.

Am Y Swydd

Fel Cydlynydd Storfeydd, byddwch yn gyfrifol am reoli gweithrediadau storfeydd o ddydd i ddydd, gan gyflawni safonau uchel o ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid.

 

Byddwch yn rheoli ac yn monitro rheolaeth stoc yn ogystal â rheoli a dosbarthu offer a deunyddiau i weithrediadau rheng flaen.

 

Byddwch yn cefnogi'r Goruchwyliwr Storfeydd gyda'r prosesau tendro a phrynu gan sicrhau bod yr offer yn addas ar gyfer gweithrediadau rheng flaen.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad uniongyrchol o weithio mewn amgylchedd storfeydd gyda rheoli archwilio a rheolaeth stoc. Bydd gennych brofiad o Iechyd & Diogelwch yn y gweithle yn ogystal â sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

 

Yn ogystal, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhifedd rhagorol ac yn fedrus yn TG gyda'r mwyafrif o becynnau Microsoft gan gynnwys Excel. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn barod i weithio oriau hyblyg i fodloni galwadau'r Gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cytuno i weithio ar Ddyddiau Gŵyl y Banc, Dydd Gwener Dda gan gynnwys unrhyw benwythnosau dilynol ar ôl Gŵyl y Banc, y cyfnodau Nadolig a'r Flwyddyn Newydd - i gefnogi staff rheng flaen.

 

Mae'r swyddi gydag oriau penodol i gynnal oriau agor storfeydd. Oriau penodol i'w thrafod gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn gallu addasu'n gyflym i dechnolegau a ddefnyddir gan y gwasanaeth. Bydd angen i chi ddeall a gweithredu yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau'r Cyngor. Rhaid i chi gynnal enw da'r Cyngor drwy fabwysiadu dull proffesiynol a chwrteisi.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-