Am Y Gwasanaeth

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i'r unigolyn iawn ymuno â thîm rheoli’r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae'r gyfarwyddiaeth yn canolbwyntio ar gynnig yr ymyriadau iawn ar yr adeg iawn, gan ddod â gwasanaethau ynghyd ar draws y gyfarwyddiaeth ac â'n partneriaid i wella canlyniadau i'n defnyddwyr gwasanaeth. 

Am Y Swydd

Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn arwain tîm ymroddedig o reolwyr a bydd yn gyfrifol am oruchwylio a datblygu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, Byw'n Annibynnol a Gwasanaethau Ataliol a Diogelu Oedolion. Bydd deiliad y swydd hefyd yn goruchwylio'r Rhaglen Cymorth Tai ac yn comisiynu ac yn monitro ansawdd gwasanaethau gofal a chymorth. Er mwyn hwyluso hyn, bydd y swydd yn goruchwylio'r gwaith o reoli adnoddau cyllidebol a staffio sylweddol.

Mae hwn yn gyfle i weithio mewn dinas fywiog ac amrywiol ac i ymuno â thîm deinamig a chefnogol gyda ffocws ar arloesi wrth ddarparu gwasanaethau.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Gofynnwn i chi ddod ag arweinyddiaeth ragorol a sgiliau cydweithredu a phartneriaeth cryf ynghyd â'r brwdfrydedd i ddarparu gwasanaethau gwych sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Bydd gennych y profiad a'r sgiliau angenrheidiol i arwain y tîm Gwasanaethau Oedolion, gan oruchwylio gwaith ystod o wasanaethau proffesiynol ac arbenigol. Bydd gennych allu profedig i arwain newid, gan adeiladu ar ac ymgorffori dull arloesol y gwasanaeth o ymdrin â gwasanaethau atal, ailalluogi a gofal.

Byddwch yn gallu gweithio'n agos ac yn gynhyrchiol gyda phartneriaid, ym maes iechyd, tai a'r trydydd sector a darparu gwasanaethau gwirioneddol arloesol a chynaliadwy.

Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol ac amlddiwylliannol, bydd gennych ymrwymiad clir ac amlwg i gyfle cyfartal i bawb ac ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at gynhwysiant.

Os hoffech ymuno â'n tîm rheoli ymroddedig i gyflawni'r agenda gyffrous hon, byddai gennym ddiddordeb mewn clywed gennych. 

Gwybodaeth Ychwanegol

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd hon anfonwch e-bost at Jane Thomas, Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau yn jf.thomas@caerdydd.gov.uk

Y cam cyntaf i ymgeiswyr ar y rhestr hir fydd Canolfan Asesu, a gynhelir ym mis Awst 2025. Yr ail gam i ymgeiswyr ar y rhestr fer fydd cyfweliad gyda’r Pwyllgor Penodiadau ym mis Medi 2025.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau