Am Y Gwasanaeth
Mae'r swydd hon yn is-adran Tîm Talu’r gwasanaeth Adnoddau Dynol. Mae’r Tîm Talu’n cynnig gwasanaeth cyflogres cynhwysfawr i bob un o gyflogeion y Cyngor. Ein prif amcan yw sicrhau bod cyflogeion yn cael yr holl dâl sy'n ddyledus iddynt mewn modd amserol a chywir. Gwneir hyn yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth y cyflogai.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn prosesu a gwirio data'r gyflogres yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
Bydd gofyn i chi ddilysu a chywiro allbwn y gyflogres er mwyn sicrhau cywirdeb cyflog net, gan gynnwys buddiannau, lwfansau a didyniadau statudol ac anstatudol.
Bydd gofyn i chi ddelio ag ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r gyflogres fel y bo'n briodol ar gyfer cyflogeion, rheolwyr, CThEM ac asiantaethau eraill tra'n cynnal cyfrinachedd bob amser.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad / gwybodaeth mewn prosesau cyflogres a dealltwriaeth o ddidyniadau Statudol ac Anstatudol
Mae sgiliau rhifedd, llythrennedd, TG a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn hanfodol. Y gallu i gyfathrebu â staff ar bob lefel ar lafar neu'n ysgrifenedig. Blaenoriaethu tasgau, gwneud gwaith amrywiol i derfynau amser llym a gweithio dan bwysau ar adegau allweddol. Gweithio'n dda mewn tîm yn ogystal â gweithio ar eich menter eich hun
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd barhaol yw hon am 37 awr yr wythnos
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Yn sgil yr amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Jennifer Daddow ar 02920873695
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau