Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Rydyn ni’n dîm bach yng Ngwasanaethau Tŷ Canna, Treganna, Caerdydd sy’n darparu gwasanaeth cymunedol o ansawdd uchel i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a’u galluogi i symud ymlaen a chael gwellhad.  Derbynnir atgyfeiriadau gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol Caerdydd ac rydym yn gweithio ar draws y Ddinas. Yn dilyn Asesiad Cychwynnol gallwn ddarparu allgymorth 1:1 a/neu'r cyfle i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau mewn lleoliadau cymunedol. Mae angen hyblygrwydd/gweithio gartref a pharodrwydd i gynnal sesiynau ar-lein.  

Am Y Swydd

Rydym eisiau recriwtio Gweithiwr Allgymorth Iechyd Meddwl (Cymorth Cymheiriaid) i ymuno â’r tîm.   Bydd y person llwyddiannus yn gweithio gyda phobl i’w helpu i weithio tuag at eu nodau, eu gobeithion a’u dyheadau a symud trwy’r camau gwella.  Rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad gydol oes o faterion iechyd meddwl a phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl e.e. Canolfannau Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae’r gallu i weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill yn ofynnol yn ogystal â’r gallu i atgyfeirio at asiantaethau allweddol. Mae profiad blaenorol fel cymar sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed hefyd yn ddymunol. Mae'r swydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl allu gweithio ar eu menter eu hunain a hefyd cydweithio â thimau.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Hoffem glywed gennych os ydych chi’n berson arloesol, brwdfrydig ac uchel eich cymhelliant, gyda sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog. Mae profiad o weithio yn y maes darpariaeth iechyd meddwl yn hanfodol.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus, yn greadigol ac yn falch o’r cyfle i helpu pobl i wireddu eu potensial a symud ymlaen gyda’u bywydau. 

Mae angen i chi fod yn ddigynnwrf dan bwysau ac yn wydn gyda dealltwriaeth dda o anghenion unigol.

Mae angen i chi fod yn hyblyg o ran oriau gwaith a lleoliad, gan gynnwys gweithio ar y penwythnos neu gyda’r nos o dro i dro. Mae trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd o gar yn ddelfrydol.  

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor.  Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod.  Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. 

 

 

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-