Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Rydyn ni’n dîm bach yng Ngwasanaethau Dydd Ty Canna, Treganna, Caerdydd sy’n darparu gwasanaeth cymunedol o ansawdd uchel i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl a’u galluogi i symud ymlaen a chael gwellhad.

Am Y Swydd

Rydym yn gobeithio recriwtio Gweithiwr Allgymorth Iechyd Meddwl i ymuno â'r Gwasanaeth Pontio Pobl Ifanc sydd newydd ei ffurfio yn Nhŷ Canna. Mae hwn yn brosiect cyffrous sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc drwy fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 17 a 25 oed i’w helpu i ddod o hyd i gyfeiriad a magu hyder. Mae angen dull gweithredu pendant i helpu pobl ifanc i weithio tuag at nodau, gobeithion a dyheadau. Mae’r gallu i weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill yn ofynnol yn ogystal â’r gallu i atgyfeirio at asiantaethau allweddol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Hoffem glywed oddi wrthych os ydych chi’n berson arloesol, brwdfrydig a chryf eich cymhelliant, gyda sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog. Mae profiad o weithio yn y maes iechyd meddwl, yn ddelfrydol gyda phobl ifanc, yn ofynnol.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn drefnus, yn greadigol ac yn falch o’r cyfle i helpu pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl i wireddu eu potensial a symud ymlaen gyda’u bywydau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae angen i chi fod yn hyblyg o ran oriau gwaith a lleoliad, a allai gynnwys gweithio ar y penwythnos neu gyda’r nos o dro i dro. Mae meddu ar drwydded yrru lawn, ddilys a defnydd o gar yn ddymunol.

 

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.                  

 

 

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau