Am Y Gwasanaeth
Mae’r Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog yn gyfrifol am waith cynnal a chadw sy’n effeithlon ac sy’n cydymffurfio â rheoliadau ar gyfer fflyd fawr o 900+ o gerbydau'r Cyngor ac offer a pheiriannau Parciau a Mynwentydd.
Am Y Swydd
Bod yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth golchi pwysedd uchel o ansawdd uchel ar gyfer cerbydau'r Cyngor, offer peirianyddol a chwsmeriaid preifat.
Cynnal lefel uchel o lendid a threfn mewn gweithdai a thir y safle.
Cyflawni symudiadau cerbydau fel sy'n ofynnol gan y gwasanaeth.
Lawrlwytho gwybodaeth tacograff o gerbydau fflyd ar amserlen reolaidd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Cyflawni'r holl ddyletswyddau yn unol â strategaethau a gweithdrefnau corfforaethol.
Glanhau draeniau, lawrlwytho gwybodaeth tacograff, rhoi gwybod am atgyweiriadau, monitro ardaloedd golchi.
Sicrhau bod yr holl daflenni gwaith a thaflenni amser yn cael eu cwblhau a bod sylwadau'n cael eu cofnodi ar fformatau ysgrifenedig clir.
Cysylltu’n ddyddiol â'r Goruchwyliwr priodol.
Cyrraedd targedau dyddiol/wythnosol yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol a chytundebau lefel gwasanaeth.
Darparu boddhad cwsmeriaid a gwella gwasanaeth cwsmeriaid.
Cyflawni gwaith o ansawdd uchel, symud cerbydau naill ai ar y safle, rhwng safleoedd y Cyngor neu leoliadau trydydd parti.
Cynnal safon uchel o lendid a sicrhau bod yr holl wastraff yn cael ei drin yn gywir.
Cymryd gofal rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a phobl eraill.
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd i gyflawni dyletswyddau’r rôl yn foddhaol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae trwydded yrru ddilys lawn yn un o ofynion hanfodol y swydd hon.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau