Am Y Gwasanaeth
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn dymuno recriwtio Gweithwyr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol i ddatblygu a chefnogi ein model Gwaith Ieuenctid Ardal Leol.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sylfaen dystiolaethol i Waith Ieuenctid ffynnu yng nghymunedau Caerdydd. Mae dangos effaith ac arddangos siwrneiau cadarnhaol pobl ifanc yn hanfodol. Rydym wedi mynd ati i groesawu technoleg ac mae deall y gwahanol fannau diogel y mae pobl ifanc yn byw ynddynt yn rhan hanfodol o'n gwaith.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n ceisio parhau i osod safonau mewn ymarfer Gwaith Ieuenctid a chydgynhyrchu rhaglenni Gwaith Ieuenctid gyda phobl ifanc. Mae Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant ac mae hawliau pobl ifanc yn ganolbwynt i'n gwaith gyda phobl ifanc. Byddwn yn ceisio datblygu gallu pobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o wasanaethau a sefydlu strwythurau llywodraethu lle mae pobl ifanc yn dod yn ddinasyddion gweithredol sy'n llunio'r gwasanaeth, y ddarpariaeth, y rhaglenni a'r prosiectau y maent yn cymryd rhan ynddynt.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd gyda chyfle i ddatblygu gwasanaeth a all gefnogi pobl ifanc a darparu darpariaeth sy'n arloesol ac yn greadigol, gan roi pobl ifanc wrth wraidd ei ddatblygiad.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy'n awyddus i ddatblygu ymarfer Gwaith Ieuenctid sy'n seiliedig ar gryfder.
Rydym yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arwain a rheoli wrth fynd ati i gynnwys staff mewn dysgu, hyfforddi a mentora sy'n galluogi datblygiad proffesiynol parhaus y gwasanaeth.
Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. Mae gan Gaerdydd gymaint i'w gynnig, drwy gyfleoedd cyffrous i ddatblygu ymarfer sy'n arwain y sector mewn meysydd sydd ond i'w cael yn y brifddinas, gan gefnogi pobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau.
Am Y Swydd
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig:
- Telerau ac Amodau Cydgyngor Trafod Telerau
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Patrymau gwaith hyblyg
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Dyma ychydig yn unig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, cymerwch gip ar ein gwefan www.cardiffyouthservices.wales/index.php/cy/ sy’n nodi pam mai Caerdydd yw'r lle i fod.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn dymuno sefydlu timau ardal i gefnogi Gwaith Ieuenctid digidol o fewn cymunedau Caerdydd. Mae'r strwythur newydd yn dymuno creu model ardal leol sy'n seiliedig ar weithio mewn partneriaeth ac ymarfer cydweithredol.
Mae hon yn rôl amlddisgyblaethol lle bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd ag ystod o fethodolegau Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys; Cymorth llwyth achos wedi'i dargedu, gwaith ieuenctid mynediad agored, gwaith ar wahân ac allgymorth a darpariaeth sy'n seiliedig ar y cwricwlwm.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith.
Byddwch yn ymarferydd tîm allweddol ac yn gosod safonau ar gyfer ymarfer Gwaith Ieuenctid Cynorthwyol.
Byddwch yn rhan o dîm cyflwyno Gwaith Ieuenctid ardal leol ac yn cefnogi’r gwaith o gyd-gynhyrchu cynllunio, cyflwyno a gwerthuso ymarfer Gwaith Ieuenctid gyda phobl ifanc.
Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio tair noson yr wythnos ac ar benwythnosau’n achlysurol.
Bydd gofyn i'r Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Cynorthwyol gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglen Gwaith Ieuenctid hyblyg ac addasadwy mewn ardal leol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae angen i unrhyw ymgeiswyr gydymffurfio â'r cymhwyster a'r cofrestriad presennol a amlinellir gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus yr angerdd a'r awydd i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy rhagorol i'n pobl ifanc, ein cymunedau a'n partneriaid gwasanaeth ehangach.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i feithrin perthnasau cadarnhaol â phobl ifanc yn gyflym a’u hysgogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau.
Byddwch yn meddu ar brofiad o weithio’n gydweithredol ac fel rhan o dîm yn ogystal ag ar eich liwt eich hun.
Bydd gennych brofiad o gefnogi gwaith wedi’i gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc yn ogystal â datblygu dull hyblyg o gefnogi anghenion pobl ifanc.
Byddwch yn dod yn rhan allweddol o dîm y Gwasanaeth Ieuenctid a bydd gennych rôl weithredol yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r model ardal leol sy'n ceisio cefnogi’r canlyniadau gorau i bobl ifanc.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Swydd ran amser yw hon, am 9 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyflog a ddangosir, fodd bynnag, am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, felly caiff ei dalu ar sail pro-rata yn unol â hyn.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau