Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd.

Mae ein Tîm Ailgylchu a Gwasanaethau Cymdogaeth yn gyfrifol am gasglu gwastraff cartref ac ailgylchu.  Yn ogystal, mae'n cynnig gwasanaethau glanhau stryd bob awr o’r dydd - gan gynnwys ysgubo strydoedd, casglu sbwriel a gwagio biniau sbwriel - er mwyn sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd glân a diogel i drigolion Caerdydd.

Rydym yn chwilio am yrwyr HGV i gefnogi gweithrediad ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sydd wedi'u lleoli yn Ffordd Lamby a Chlos Bessemer. 

Am Y Swydd

Byddwch yn gyfrifol am gludo sgipiau llawn a gwag yn ddiogel rhwng Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar draws y Ddinas, gan ddefnyddio cerbyd bachyn codi. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau ein bod yn ailgylchu cymaint o wastraff y Ddinas â phosibl, gan sicrhau bod yr holl symudiadau gwastraff yn cael eu cofnodi'n gywir yn unol â gofynion deddfwriaethol. 

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.  Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Bydd gennych brofiad amlwg o yrru cerbydau nwyddau trwm ac yn ddelfrydol bydd gennych CPC cyfredol. Byddwch yn gallu cwblhau gwaith papur yn ôl y galw, a gweithio'n dda fel rhan o dîm.  

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r swydd yn seiliedig ar wythnos 37 awr, ond mae'r safle'n gweithredu 7 diwrnod yr wythnos.  Byddwch yn cael shifftiau sefydlog, ac os yw un o'ch shifftiau ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, byddwch yn derbyn taliadau ychwanegol am hyn.

Mae trwydded HGV ddilys lawn yn hanfodol. 

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Gareth Ffoulkes ar 02920 717500.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs.  Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: 

Gwybodaeth Ychwanegol:-

 

Atodiadau