Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn anelu at ddarparu Gwasanaeth o ansawdd dda ac uchel. Mae swydd wag ar gael fel Hyfforddai Tai o fewn yr Hybiau Cymunedol, sef Hyb Ystum Taf a Gabalfa.

Am Y Swydd

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd ar raglen hyfforddiant i gynnig gwasanaeth cynghori proffesiynol, wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn, gan gynnwys pob agwedd ar y Budd-dal Tai, y Dreth Gyngor, Budd-daliadau Lles, Diwygio Lles, Cyngor Ariannol, Ymholiadau Tai, Atal Digartrefedd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cyffredinol y Cyngor, yn ogystal â darpariaeth Llyfrgell. Bydd rhaid i’r person llwyddiannus hefyd dysgu sut i ddatrys problemau sy’n ymwneud â ystod eang o wasanaethau a darparu gwasanaethau Hyb a Llyfrgell sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a darparu gwybodaeth.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Does dim angen i chi gael cymhwyster ffurfiol neu fod gennych profiad yn y maes, ond bydd angen i’r person llwyddiannus fod ganddo sgiliau cyfathrebu dda, yn ogystal â’r gallu i addasu a dysgu’n gyflym ar y swydd. Bydd agwedd positif sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn allweddol, gan fydd angen i chi gweithio i derfynau amser a thargedau. Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, yn fantais. Byddai profiad defnydd systemau TG hefyd yn fantais. Mae nifer fawr o gyrfaoedd o fewn y Cyngor, ac bydd cyfleoedd i symud lan, yn ogystal â’r opsiwn i weithio’n hyblyg. Does dim gwarantu ennill swydd parhaol ar ddiwedd y cynllun hyfforddiant 18 mis; fodd bynnag, byddem ni yn rhoi cyngor a sgiliau i'r person llwyddiannus ar gyfer sut i ymgeisio ar gyfer swyddi addas o fewn y gwasanaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol ar ôl darllen y ddisgrifiad swydd, cysylltwch â Joe Boyle ar 02920 785588.

Maer swydd yn addas i rhannu post.

Mae’r swydd hon dros dro tan 28 Mehefin 2024.

 

 

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-