Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymrwymedig â sgiliau Llyfrgell a gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â thîm Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Bydd gennych wybodaeth arbenigol am ddarparu gwasanaethau llyfrgell.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y gwasanaethau i blant a'r gwasanaethau Cymraeg gan gynnwys stoc, gweithgareddau a hyrwyddiadau ledled Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn gweithio gyda'r Tîm Hybiau a'r tîm strategaeth llyfrgell, yn cynorthwyo â chymhellion cynllunio, ac yn gwerthuso perfformiad. Bydd gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.
Bydd gennych brofiad wyneb yn wyneb wrth hyrwyddo gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r llyfrgell yn weithredol drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau, amseroedd stori, arddangosiadau ac arddangosfeydd.
Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm, a byddwch yn meddu ar agwedd hyblyg. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol a byddwch yn gallu datrys anghydfodau mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd llyfrgell yn ogystal â chymhwyster llyfrgell perthnasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 4 - Uwch.
Bydd gofyn i chi weithio ar y penwythnos a gyda'r hwyr ar sail rota ac efallai bydd lleoliad y gwaith yn amrywio.
Mae'r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Yn sgil yr amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, e-bostiwch Nicola Pitman – Nicola.Pitman@caerdydd.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau