Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddgar â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog ymuno â’n Timau Hybiau Cymunedol. Mae timau hybiau’n cefnogi cwsmeriaid trwy roi cyngor ar ystod eang o wasanaethau'r Cyngor ynghyd â chynnig darpariaeth llyfrgell lawn. Swydd ran-amser 18.5 awr yr wythnos yw hon ac mae dros dro tan 31 Mawrth 2024.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o’r Gwasanaeth Cymorth Lles newydd, gan ddarparu cymorth pwrpasol 1 i 1 a chynnig pecyn ymyrraeth argyfwng cyflym, gan weithio gydag unigolion i gefnogi pob agwedd ar eu lles. Byddwch yn cydweithio â gwahanol sefydliadau partner ac asiantaethau cynghori i ddarparu gwasanaeth cyfannol, cydlynol a chwbl hygyrch.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn sicrhau bod Cymorth Lles ymarferol i gwsmeriaid yn briodol i'r angen, er mwyn galluogi cwsmeriaid i gymryd rhan weithredol yn y broses o reoli a gwella eu hiechyd a’u lles. Er mwyn galluogi hyn byddwch yn rhoi arweiniad a chymorth sy'n diwallu anghenion y cwsmer a bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal.
Bydd gennych sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol a'r gallu i hyrwyddo'r gwasanaeth er mwyn sicrhau atgyfeiriadau effeithiol.
Bydd gennych brofiad o fentora cwsmeriaid/staff a phrofiad o gynnal cofnodion ystadegol rhagorol
Bydd gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, byddwch yn hyblyg, yn chwarae rhan weithredol yn y timau Hybiau/Llyfrgelloedd gan sicrhau bod cyfathrebu da yn cael ei gynnal o fewn y tîm, ac yn cyfrannu at waith y tîm cyfan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa OM2 o leiaf, neu gan y Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Os oes os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, e-bostiwch Rebecca Davies at redavies@cardiff.gov.uk
Atodiadau