Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous a diddorol wedi codi ym Marchnad Caerdydd ar gyfer Porthor Marchnad/Cynorthwy-ydd Diogelwch.

Am Y Swydd

Y swyddogaeth allweddol fydd darparu rôl glanhau a diogelwch effeithlon o ansawdd uchel o fewn Marchnad Caerdydd. Byddwch yn gyfrifol am ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys agor a chau'r eiddo, sicrhau y dilynir yr holl brotocolau iechyd a diogelwch, sicrhau bod y farchnad yn cael ei chadw i safon uchel o lendid, rheoli gwastraff y tenant (bydd hyn yn golygu codi a chario trwm a defnyddio peiriannau yn rheolaidd) a sicrhau y glynir wrth is-ddeddfau marchnad.

 

Byddai disgwyl i’r person fod yn gyfeillgar ac agos-atoch a byddai disgwyl iddo gysylltu â thenantiaid, aelodau’r cyhoedd a chontractwyr bob dydd.

 

Un agwedd ar y rôl fyddai sicrhau diogelwch yn y Farchnad a chadw presenoldeb gweladwy yn yr adeilad.

 

Mae angen gallu gweithio ar sail rota gyda'r porthorion eraill, gan weithio 37 awr dros 5 diwrnod. Bydd hyn yn cynnwys penwythnosau ac ambell ŵyl banc yn ôl yr angen.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Profiad o weithio mewn gwasanaeth cwsmeriaid a/neu amgylchedd cynnal a chadw/glanhau, y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, y gallu i weithio ar eich liwt eich hun yn ôl y gofyn ac fel aelod o dîm. Rhaid bod yn fodlon gweithio goramser yn ôl yr angen.

Gwybodaeth Ychwanegol

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.     

Am ragor o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Louise Thomas ar 07813 720641.

 

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau