Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn yn gweithio'n llawn amser (37 awr), sy'n cyfateb i £12.00 yr awr (pro rata), gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd yr atodiad Cyflog Byw yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd, hyd yn oed yn ystod pandemig. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb yn wyneb â chwsmeriaid, neu’n rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Tîm Cymorth Arbenigol yn dymuno cyflogi Prentis yn gweithio o’r Gwasanaethau Pobl AD, Ystafell 470, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW, ond bydd yn gweithio gartref yn ystod y pandemig.

Mae’r Tîm Cymorth Arbenigol yn helpu i reoli a gwella prosesau a gweithdrefnau corfforaethol ac ysgol y Gwasanaethau Pobl AD. Rydym yn ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwella prosesau a data gwybodaeth rheoli. Rydym yn ffurfweddu ac yn profi systemau Adnoddau Dynol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol.

Am Y Swydd

Yn y rôl Prentis hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i: 

  • Ddatblygu eich sgiliau datrys problemau a dadansoddi
  • Ffurfweddu a phrofi systemau Adnoddau Dynol a rhaglenni Microsoft Office
  • Datblygu dull gweithio wedi ei arwain gan ddata drwy ddeall anghenion sefydliadol
  • Trosi gwybodaeth i fformat effeithlon a chywir
  • Ehangu eich sgiliau TG a gwella sgiliau MS Excel

Bydd tîm y gwasanaeth yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau.  Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth a hyfforddiant yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.   Mae'r Cynllun Prentis Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i gyfoethogi eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Rydym yn symud i weithio ar-lein a gartref a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn.  Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd. 

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith, sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl a'n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein Prentisiaid Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i fanteisio ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad, er mwyn datblygu ei yrfa.

Bydd prentisiaid yn ymgymryd â Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cymorth Rhaglenni Digidol fel rhan o'r rôl hon. Os oes gennych radd, neu os ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster hwn, neu NVQ, ar yr un lefel neu'n uwch yn anffodus nid ydych yn gymwys i wneud cais. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ein cyfleoedd Hyfforddeion Corfforaethol a rolau eraill lle rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol. Gwiriwch ein swyddi gwag eraill yn Swyddi a hyfforddiant

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Mei Wah Farrow ar 029 2087 2068.

I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod yn byw yng Nghaerdydd Cadarnhewch fod eich cod post o fewn ffiniau Caerdydd yma http://ishare.caerdydd.gov.uk/myCardiffWelsh.aspx

Nid yw'r swydd hon yn addas ei rhannu.

Mae'r swydd hon dros dro am 15 mis o'r dyddiad cychwyn os yn gweithio'n llawn amser, neu'n hirach os yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan-amser.

 

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra'ch cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar Fanyleb y Person. Dylech hefyd nodi sut yr ydych yn bodloni unrhyw feini prawf dymunol gan y gallwn ddefnyddio'r rhain i greu rhestr fer os byddwn yn derbyn nifer fawr o ymgeiswyr sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi’i chyfyngu i 4,000 o nodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-